Morwyn chwedlonol yn y chwedl Gymraeg Canol Culhwch ac Olwen yw Olwen. Mae hi'n ferch i'r cawr Ysbaddaden Bencawr.

Ceir chwedl onomastig o fewn y prif chwedl sy'n esbonio'r enw Olwen. Wrth iddi gerdded mae pedair meillionen wen yn tyfu yn ôl ei thraed. Mae'r disgrifiad coeth o Olwen a rydd y cyfarwydd ohoni ymhlith y darnau rhyddiaith Cymraeg Canol enwocaf.

Yn y chwedl mae Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Am fod llysfam Culhwch wedi tynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - "y forwyn decaf erioed" - mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder Arthur i gael ei gymorth a'i gynghor. Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys Cai a Bedwyr, yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau (neu anoethau) anodd os nad amhosibl. Ni ddisgrifir pob un o'r ddeugain antur yn y ffurf ar y chwedl sydd gennym ni heddiw, ond o blith y rhai a ddisgrifir (tua 50 ohonynt) mae darganfod Mabon fab Modron a hela'r Twrch Trwyth yn dasgau enwog. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.

Cyfeiriadau golygu

  • Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988).