Pensaer o Gymraes yw Amanda Levete (ganed 17 Tachwedd 1955). Gyda'i gŵr ar y pryd, Jan Kaplický, enillodd Wobr Stirling RIBA ar gyfer pensaernïaeth ragorol ym 1999.

Amanda Levete
Ganwyd17 Tachwedd 1955, 1959 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Sant Pawl, Llundain
  • Architectural Association School of Architecture Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, cynllunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • AL_A Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMuseum of Art, Architecture and Technology, Lord's Media Centre, Selfridges Building, Birmingham Edit this on Wikidata
PriodJan Kaplický, Ben Evans Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Stirling, Gwobr Jane Drew, CBE Edit this on Wikidata

Ganwyd Levete ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac astudiodd yn St Paul's, ysgol fonedd i ferched yn Llundain, ac Ysgol Gelf Hammersmith, cyn ymaelodi â'r Architectural Association, hefyd yn Llundain.[1] Cafodd ei phrentisiaeth â'r pensaer Will Alsop ac yna aeth i weithio i bartneriaeth Richard Rogers.[1] Cyn ei 30 oed roedd wedi sefydlu ei chwmni ei hun, Powis & Levete, ar y cyd â Geoffrey Powis.[2]

Yn y 1980au hwyr cyfarfu â'r pensaer Tsiecaidd, Jan Kaplický,[3] a sefydlodd y ffỳrm Future Systems yn 1979.[4] Daeth Levete yn bartner gyda'r cwmni ym 1989[4] a bu i'r ddau briodi ym 1991.[5] Ym 1998 cynlluniodd Future Systems dŷ o'r enw Malator yn Druidston, Sir Benfro, ar gyfer y cyn-AS Llafur Bob Marshall-Andrews a'i wraig.[6] Ym 1999 enillodd Future Systems Wobr Stirling am Ganolfan y Cyfryngau ym Maes Criced Lord's, Llundain. Hwn oedd yr adeilad cyntaf a wnaed yn gyfangwbl o alwminiwm yn y byd.[4] Yn 2003, Future Systems a gynlluniodd siop adrannol Selfridges yn Birmingham.[3] Gelwid y ddau bartner yn "benseiri dewraf eu cenhedlaeth".[4]

Ysgarodd Levete a Kaplický yn 2006[3] ac yn 2007 priododd Ben Evans, cyfarwyddwr Gŵyl Ddylunio Llundain. Daeth partneriaeth Future Systems i ben yn 2008 a sefydlodd Levete y cwmni Amanda Levete Associates,[3] a adwaenir bellach fel AL_A. Bu Kaplický farw yn 2009.[3] Yn 2011 enillodd AL_A y gystadleuaeth i adnewyddu Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.[3]

Detholiad o adeiladau Future Systems

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Amanda Levete: the social networker. Architects' Journal. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
  2. (Saesneg) Out of time: Amanda Levete. Building Design (1 Ebrill 2011). Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 (Saesneg) Jeffries, Stuart (9 Ebrill 2011). The Saturday interview: architect Amanda Levete. The Guardian. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 (Saesneg) Booth, Robert (17 Hydref 2008). From a shining future to a bitter end as 'blob' architecture pioneers part company. The Guardian. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
  5. (Saesneg) Grice, Elizabeth (11 Mawrth 2009). 'My greatest regret is that I didn't make peace with him in life'. Daily Telegraph. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.
  6. (Saesneg) House in Wales / Future Systems. IDEASGN. Adalwyd ar 15 Hydref 2015.