Amason (mytholeg)
Ym mytholeg Roeg, roedd yr Amasoniaid (Hen Roeg: Ἀμαζόνες yn llwyth o ferched rhyfelgar. Fe'i lleolid yn ardal Caerdroea neu yn Thrace; yn y 6ed ganrif CC credid eu bod yn byw yn Sgythia, ac yn y 5 CC yn Themiscyra gerllaw Thermodon. Yn y cyfnod Helenistaidd, lleolid hwy yn y dwyrain pell neu'r gorllewin pell.
Amason yn paratoi ar gyfer brwydr (Pierre-Eugène-Emile Hébert, 1872) | |
Enghraifft o'r canlynol | grŵp o gymeriadau chwedlonol Groeg, grwp ethnig chwedlonol |
---|---|
Math | cymeriad chwedlonol Groeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maent yn ymddangos mewn nifer o chwedlau ym mytholeg Roed. Er enghraifft, adroddir am ei brenhines, Penthesileia, yn cynorthwyo Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac yn cael ei lladd mewn brwydr yn erbyn Achilles.
Enwyd afon Amazonas ar eu hôl ar sail hanesion Francisco de Orellana am ferched rhyfelgar ar hyd yr afon yma.