Achiles

(Ailgyfeiriad o Achilles)

Arwr Groegaidd y dywedir iddo ymladd yn Rhyfel Caerdroea oedd Achiles, hen ffurf Gymraeg Achil neu Echel (Hen Roeg: Ἀχιλλεύς). Ef yw prif arwr y Groegiaid yn yr Iliad gan Homer, sy'n cymryd Dicter Achiles fel ei thestun.

Achiles
Enghraifft o'r canlynolcymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
CrefyddCrefydd groeg yr henfyd edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Achiles yn fab i Peleus, brenin y Myrmidoniaid, a'r nymff Thetis. Yn ôl un chwedl, pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn afon Styx fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo.

Wedi i Paris gipio Helen, gwraig Menelaos brenin Sparta a'i dwyn i Gaerdroea, lle mae ei dad, Priam, yn frenin, mae Menelaos yn gofyn cymorth ei frawd Agamemnon, brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith Achiles a'i gyfaill mynwesol Patroclus. Digia Achiles pan mae Agamemnon yn cymryd y gaethferch Briseis oddi wrtho, ac mae'n gwrthod mynd allan i ymladd. Cymer Patroclus ei le, ond lleddir ef gan Hector, mab hynaf Priam a phrif arwr Caerdroea. Lleddir Hector ei hun gan Achiles, ac mae'n llusgo ei gorff o amgylch Caerdroea, nes yn y diwedd cytuno i'w ddychwelyd ar gais Priam.

Yn nes ymlaen yn yr ymladd, saethir Achiles yn ei sawdl gan Paris, ac mae'n marw o ganlyniad i'r anaf.

Llinellau cyntaf yr Iliad yw:

μῆνιν ἄειδε θεὰ Πηληϊάδεω Ἀχιλῆος
οὐλομένην, ἣ μυρί' Ἀχαιοῖς ἄλγε' ἔθηκεν,
Cenwch, dduwiesau, am ddicter mab Peleus, Achiles
y dicter melltigedig ddaeth â phoen i filoedd o'r Acheaid.
Achiles a chorff Hector; engrafiad gan Johann Balthasar Probst