Nofel i oedolion yw Amdani! sef nofel gyntaf Bethan Evans (hynny yw Bethan Gwanas). Cyhoeddwyd y gyfrol hon (a hon yn unig) o dan ei henw bedydd Bethan Evans. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1997. Yn 2014 roedd y gyfrol yn dal mewn print.[1] Yn sgil llwyddiant Amdani! ysgrifennodd Bethan gyfres ddrama o'r un enw gyda Ffilmiau'r Nant ar gyfer S4C. Profodd y gyfres i fod mor boblogaidd, bu sawl cyfres arall wedi i Bethan roi'r gorau iddi ar ôl tair cyfres. Comisiynodd Sgript Cymru ddrama lwyfan o'r un enw a chyhoeddi llyfryn o'r sgript (Amdani!) sy'n cynnwys cerddoriaeth a chaneuon). Derbyniodd Sgript Cymru Wobr Datblygiad Cynulleidfa ACW am waith trwy gyfrwng y Gymraeg.

Amdani!
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurBethan Evans
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiGorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
PwncNofelau Cymraeg i oedolion
Argaeleddmewn print
ISBN086243419X
Tudalennau206 Edit this on Wikidata

Disgrifiad byr golygu

Nofel sy'n adrodd hanes tîm rygbi merched Tre-ddôl. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Gorffennaf 1997.



Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013