Bethan Gwanas

(Ailgyfeiriad o Bethan Evans)

Awdures boblogaidd sy'n ysgrifennu yn Gymraeg yw Bethan "Gwanas" Evans (ganed 16 Ionawr 1962). Daeth i amlygrwydd yn bennaf yn sgil llwyddiant addasiad teledu o'i nofel am dîm rygbi merched, Amdani!. Mae'n ysgrifennu i oedolion, i blant ac i ddysgwyr ac wedi cyhoeddi dros 28 o weithiau.[1] Mae hefyd wedi bod yn gwneud gwaith teledu, gan gynnwys cyflwyno Byw yn yr Ardd, Tyfu Pobl a Gwanas i Gbara ar S4C.

Bethan Gwanas
Ganwyd16 Ionawr 1962 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu
 

Fe'i magwyd ar fferm Gwanas yn y Brithdir, ger Dolgellau. Tra'n ifanc, roedd hi'n hoff o ddarllen; dywedai mai Enid Blyton oedd un o'i hoff awduron tra'n blentyn. Wedi'i haddysgu yn Ysgol y Gader, Dolgellau, aeth ymlaen i raddio mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ym 1985 enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd, pan oedd yn athrawes Saesneg gyda VSO yn Nigeria.

Wedi dwy flynedd gyda Radio Cymru aeth i Fangor i wneud cwrs ymarfer dysgu, ac yna dysgu Ffrangeg yn Ysgol Tryfan ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Symudodd ymlaen i fod yn ddirprwy bennaeth Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, ac yna'n hyrwyddwr llenyddiaeth i Gyngor Gwynedd. Yn 2003, daeth yn awdures llawn amser.[2]

Awdures

golygu

Cyhoeddwyd ei llyfrau cyntaf, sef nofel Amdani! a Dyddiadur Gbara, cofnod ffeithiol o'i phrofiadau o weithio gyda VSO yn Nigeria, ym 1997. Ers hynny, mae llawer o'i gweithiau wedi'u darlledu ar y radio ac ar y teledu, ac addaswyd ei nofel Amdani! yn gyfres deledu ar S4C. Bethan ysgrifennodd y tair cyfres gyntaf. Yn sgil llwyddiant Amdani! ysgrifennwyd drama lwyfan hefyd (a ysgrifennwyd gyda Script Cymru, ac a oedd yn cynnwys cerddoriaeth a chaneuon). Derbyniodd Sgript Cymru Wobr Datblygiad Cynulleidfa ACW am waith trwy gyfrwng y Gymraeg.

Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith am Ffuglen Gorau'r Flwyddyn sef Llinyn Trôns a Sgôr). Dyfernir y wobr hon yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Cyrhaeddodd ei nofel Hi Yw fy Ffrind y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.

Mae un o'i nofelau plant mwyaf poblogaidd Pen dafad wedi ei chyfieithu i'r Saesneg dan yr enw Ramboy, a'i nofel oedolion Gwrach y Gwyllt i Sorbeg Uchaf.

Gwobrau ac anrhydeddau

golygu

Hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T. Llew Jones yn 2013. Yn Nhachwedd 2024, derbyniodd wobr Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad i lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.[3]

Gwaith cyhoeddedig

golygu
Teitl Blwyddyn Nodiadau
Amdani! 1997 ei llyfr cyntaf dan yr enw Bethan Evans; nofel am dîm rygbi merched, a ddaeth yn gyfres deledu lwyddiannus ar S4C
Dyddiadur Gbara 1997 ei hanes gyda VSO yn Nigeria
Bywyd Blodwen Jones 1999 y cyntaf yng nghyfres Blodwen Jones; nofel i ddysgwyr
Llinyn Trôns 2000 enillydd Gwobr Tir na n-Og, y wobr am nofelau i bobl ifanc; rhan o'r maes llafur TGAU
Blodwen Jones a'r Aderyn Prin 2001 ail lyfr yn y gyfres Blodwen Jones
Popeth am ... Gariad 2001 addasiad o Coping with Love gan Peter Corey
Sgôr 2002 cyd-ysgrifennwyd â disgyblion ysgol uwchradd; enillydd Gwobr Tir na n-Og
Byd Bethan 2002 casgliad o golofnau papur newydd
Tri Chynnig i Blodwen Jones 2003 y llyfr olaf yn y gyfres Blodwen Jones
Ceri Grafu 2003 rhan o'r gyfres Pen Dafad wedi'i anelu at bobl ifanc
Gwrach y Gwyllt 2003 hanes gwrach ifanc yn dychwelyd i fro ei mebyd i ddial am gam a wnaethpwyd â hi yn y gorffennol.
Ar y Lein 2004 llyfr yn cyd-fynd â'r gyfres deledu lle mae hi'n teithio'r byd
Hi Yw fy Ffrind 2004 ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005
Mwy o Fyd Bethan 2005 ail gasgliad o golofnau papur newydd
Pen Dafad 2005 rhan o gyfres Pen Dafad wedi'i anelu at bobl ifanc
Hi Oedd fy Ffrind 2006 dilyniant i Hi Yw fy Ffrind
Ar y Lein Eto 2006 i gyd-fynd â'r gyfres deledu
Os Mêts ... 2007 nofel Stori Sydyn
Y Gwledydd Bychain 2008 llyfr ffeithiol hawdd ei ddarllen yn y gyfres Stori Sydyn yn cymharu Cymru, Llydaw a Norwy.
Ar y Lein Eto Fyth! 2008 y llyfr olaf am ei theithiau gyda S4C
Ramboy 2009 cyfieithiad Saesneg o Pen Dafad
Yn Ôl i Gbara 2010 dilyniant i Dyddiadur Gbara
Dwy Stori Hurt Bost 2010 dwy stori ar gyfer darllenwyr 10-14 oed
Hanas Gwanas 2012 hunangofiant
Llwyth 2013 nofel ffantasi i'r arddegau
I Botany Bay 2015 nofel hanesyddol
Bryn y Crogwr 2015 nofel Stori Sydyn
Efa 2017 Cyfres y Melanai
Y Diffeithwch Du 2018 Cyfres y Melanai
Yn ei Gwsg 2018 Cyfres Amdani

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Llenyddiaeth Cymru; Archifwyd 2014-03-02 yn y Peiriant Wayback Proffil; adalwyd 25 Mawrth 2014
  2.  Oriel yr Enwogion: Bethan Gwanas. BBC Lleol (Adalwyd 10-04-2009).
  3. "Bethan Gwanas yn derbyn gwobr am ei 'chyfraniad rhagorol' i lenyddiaeth plant". newyddion.s4c.cymru. 2024-11-08. Cyrchwyd 2024-11-08.

Dolenni allanol

golygu