Amergin Glúingel
Cymeriad chwedlonol yw Amergin[1] Glúingel ("gluniau gwyn") neu Glúnmar ("glun mawr"), sy'n dderwydd, bardd a barnwr i'r Milesiaid yn y Cylch Mytholegol Gwyddelig. Priodolir sawl cerdd i Amergin yn nhestunau'r chwedlau Gwyddeleg am y Milesiaid.
Roedd Amergin yn un o saith fab Míl Espáine, a gymerodd ran yng ngoresgyniad Iwerddon gan y Milesiaid gan ddisodli'r Tuatha Dé Danann, mewn dial am ladd bradwrus eu hen-ewythr Íth gan dri brenin y Tuatha Dé, sef Mac Cuill, Mac Cecht a Mac Gréine. Glaniant yn aber Inber Scéne, a enwir ar ôl Scéne, gwraig Amergin, a fu farw ar y fordaith. Rhoddodd tair brenhines y Tuatha Dé, (Banba, Ériu a Fódla), ganiatad i Amergin a'i dylwyth ymsefydlu yn Iwerddon. Chwiorydd oedd y breninesau hyn, a gorfododd Amergin i enwi'r ynys ar ôl pob un ohonynt, yr hyn a wnaeth: Ériu yw tarddair yr enw Éire, ac mae Banba a Fódla yn enwau barddonol am yr ynys.
Bu'n rhaid i'r Milesiaid ennill yr ynys trwy ymladd â'r tri frenin a'u derwyddon a rhyfelwyr. Gweithredodd Amergin fel barnwr neu ganolwr rhwng y ddwy blaid, swyddogaeth sy'n adlais o'r disgrifiadau o un o swyddogaethau derwyddon Gâl mewn ffynonellau Clasurol. Cytunodd y Milesiaid i dynnu yn ôl o'r ynys am bellter byr i'r môr, y tu hwnt i'r nawfed don, ffin o arwyddocad chwedlonol. Ymosododd y Milesiaid wedyn ond cododd derywddon y Dé Danann storm hud a lledrith i'w atal rhag cyrraedd y tir. Fodd bynnag, canodd Amergin swyngân yn galw ar ysbryd Iwerddon ac sy'n enwog heddiw wrth yr enw 'Cân Amergin'. Tawelodd y drycin a glaniodd y Milesiaid ac ennill y dydd ar ôl cyfres o frwydrau ffyrnig. Lladdwyd tri frenin y Tuatha Dé Danann mewn gornestau unigol yn erbyn tri of feibion Míl, Eber Finn, Érimón ac Amergin.
Wedyn rhanodd Amergin y tir rhwng ei ddau frawd: cymerodd Eber feddiant o dde Iwerddon a chafodd Eremon y gogledd.[2][3][4] O fewn blwyddyn roedd Érimón wedi gorchfygu Éber mewn brwydr a dod yn frenin yr ynys gyfan, a dwy flynedd ar ôl hynny lladdodd Amergin ei hun mewn brwydr arall.[5][6]
Mae gan rai o'r cerddi Cymraeg chwedlonol a briodolir i'r bardd Taliesin yn Llyfr Taliesin berthynas o ran eu themâu â'r cerddi a briodolir i Amergin yn y traddodiad Gwyddelig,[7] er nad oes awgrym o fenthyciad neu ddylanwad uniogyrchol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sillefir fel Amairgin, Amorgen, Aimhirghin hefyd
- ↑ Lebor Gabála Érenn §65-95
- ↑ Maighréad C. Ní Dobs, "Tochomlad mac Miledh a hEspain i nErind: no Cath Tailten?" Études Celtiques v.II, Paris: Librairie E. Droz, 1937
- ↑ Geoffrey Keating, Foas Feasa ar Éirinn 1.21, 22, http://www.ucc.ie/celt/published/T100054/text033.html 23]
- ↑ Annals of the Four Masters M3500-3503
- ↑ Geoffrey Keating, Foras Feasa ar Éirinn 1.24
- ↑ James MacKillop, Dictionary of Celtic Mythology, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998, t. 13