Americanwyr Seisnig
Americanwyr gyda'u llinach yn tarddu o'r Saeson yw'r Americanwyr Seisnig. Maent yn cyfrif am tua 9% o holl boblogaeth yr Unol Daleithiau, ac felly hwy yw'r grŵp ethnig Ewropeaidd trydydd fwyaf ar ôl yr Americanwyr Almaenig a'r Americanwyr Gwyddelig.
Saeson oedd un o'r grwpiau mwyaf o fewnfudwyr yn ystod cyfnod trefedigaethu'r Unol Daleithiau. Roedd mwyafrif helaeth o Sefydlwyr yr Unol Daleithiau o linach Seisnig. Daeth yr iaith Saesneg yn brif iaith yr Unol Daleithiau.