Sefydlwyr yr Unol Daleithiau

Arweinwyr gwleidyddol a gwladweinwyr oedd â rhan yn Chwyldro America oedd Sefydlwyr yr Unol Daleithiau (hefyd y Tadau Sefydlu neu'r Tad-Sefydlwyr; Saesneg: Founding Fathers of the United States) trwy arwyddo Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, cymryd rhan yn Rhyfel Annibyniaeth America, sefydlu Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau, neu gyfraniadau allweddol eraill. O fewn grŵp mawr y "Sefydlwyr" ceir dwy brif garfan: "Arwyddwyr y Datganiad Annibyniaeth" (a'u harwyddodd ym 1776) a "Llunwyr y Cyfansoddiad" (cynrychiolwyr i'r Gynhadledd Gyfansoddiadol a gymerodd rhan wrth lunio ac ysgrifennu'r Cyfansoddiad). Diffinnir "y Sefydlwyr" gan y mwyafrif o hanesyddion fel grŵp eangach sydd yn cynnwys nid yn unig yr Arwyddwyr a'r Llunwyr ond hefyd pob un wnaeth cymryd rhan mewn ennill annibyniaeth Americanaidd a chreu'r Unol Daleithiau, gan gynnwys gwleidyddion, cyfreithegwyr, gwladweinwyr, milwyr, diplomyddion, a dinesyddion cyffredin.[2] Yn ei lyfr Seven Who Shaped Our Destiny: The Founding Fathers as Revolutionaries (1973), nododd yr hanesydd o Americanwr Richard B. Morris saith dyn yn y prif Sefydlwyr:

Pwyllgor y Pump yn cyflwyno eu drafft o'r Datganiad Annibyniaeth i'r Gyngres ar 28 Mehefin 1776. Mae'r paentiad hwn gan John Trumbull yn ymddangos ar gefn papur $2 yr Unol Daleithiau.[1]

Bathodd y cyhoeddwr papurau newydd Warren G. Harding, Seneddwr Gweriniaethol o Ohio ar y pryd, y term Saesneg "Founding Fathers" yn ei araith gyweirnod i'r Gynhadledd Genedlaethol Weriniaethol ym 1916. Defnyddiodd yr ymadrodd nifer o weithiau ar ôl hynny, yn amlycaf yn ei anerchiad agoriadol fel Arlywydd yr Unol Daleithiau ym 1921.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. americanrevolution.org Allwedd i baentiad Trumbull
  2. R. B. Bernstein, The Founding Fathers Reconsidered (Efrog Newydd a Rhydychen: Oxford University Press, 2009).
  3. Richard B. Morris, Seven Who Shaped Our Destiny: The Founding Fathers as Revolutionaries (Efrog Newydd: Harper & Row, 1973).
  4. Bernstein, Founding Fathers Reconsidered, rhagymadrodd (sydd yn casglu pob defnydd Harding o'r ymadrodd ac amrywiolion ohono rhwng 1912 a 1921).