Amgueddfa Glofa Cefn Coed
Lleolir Amgueddfa Glofa Cefn Coed (Saesneg: Cefn Coed Colliery Museum) yn Y Creunant ger Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot.
Enghraifft o'r canlynol | mwynglawdd copr, amgueddfa lofaol, amgueddfa annibynnol |
---|---|
Lleoliad | Y Creunant |
Rhiant sefydliad | Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
Rhanbarth | Y Creunant |
Gwefan | http://www.npt.gov.uk/default.aspx?page=4964, http://www.cwmdulais.org.uk/cefncoed/index.htm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd glofa Cefn Coed yn y 1920au ond mae hanes mwyngloddio am lo yn ardal Cwm Dulais yn dechrau yn y 18g pan agorodd Syr Herbert Mackworth lofa Onllwyn. Glofa glo carreg oedd Glofa Cefn Coed, a hynny'n lo carreg o'r ansawdd uchaf. Daeth y glo cyntaf i'r wyneb yn 1930. Erbyn 1945 roedd 908 o ddynion yn gweithio yno. Cafodd ei genedlaetholi a dod yn eiddo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol newydd. Daeth cynhyrchu glo i ben yn 1958.
Heddiw mae'r safle yn amgueddfa boblogaidd. Ni cheir mynediad i'r gweithfeydd dan ddaear am eu bod yn rhy beryglus, ond cedwir y rhan fwyaf o'r hen adeiladau a rhai o'r peiriannau mawr ar y safle. Mae ar agor i'r cyhoedd rhwng Ebrill a Hydref; does dim tal mynediad.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol[dolen farw] (Cyngor Castell-nedd Port Talbot)