Cwm Dulais

dyffryn yng Nghastell-nedd Porth Talbot

Dyffryn yn ne-gorllewin Cymru, yn ymestyn o ogledd Sir Abertawe i ogledd-gorllewin Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yw Cwm Dulais, sy'n cael ei enw o Afon Dulais.

Cwm Dulais
Mathdyffryn, peiran Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7363°N 3.7503°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r cwm yn ymestyn tua'r de-orllewin a'r de o gyffiniau Onllwyn, i'r dwyrain o Ystradgynlais, i Aberdulais, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd. Y prif bentrefi eraill yw Blaendulais, Y Creunant a Cil-ffriw. Mae'r briffordd A4109 yn arwain ar hyd y cwm.

Fel mae Afon Dulais yn agosau at Afon Nedd ger Aberdulais, mae'n disgyn i raeadr ysblenydd Rhaeadrau Aberdulais, atyniad twristiaeth poblogaidd a safle hen weithfeydd haearn. Mae'r rhaeadr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Craig Gelli-gwm, Cwm Dulais.
Olion hen waith glo, Cwm Dulais.

Arferai Cwm Dulais fod yn ardal lofaol bwysig iawn. Roedd glofa Cefn Coed ger y Creunant yn nodedig fel y lofa glo carreg ddyfnaf yn y byd ar un adeg. Mae Amgueddfa Glofa Cefn Coed yn hen adeiladau glofa Blaenant, oedd yn estyniad o lofa Cefn Coed.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato