Diwydiant glo Cymru
Yng Nghymru ceir dau brif faes glo, sef Maes Glo Gogledd Ddwyrain Cymru, sydd yn rhan o'r un maes a Maes Glo Sir Gaerhirfryn yn Lloegr, a Maes Glo De Cymru, maes glo mwyaf yn ysoedd Prydain, ac sy'n ymestyn o Abertawe bron i'r ffîn â Lloegr. Ffurfiwyd y meysydd glo pan oedd Cymru yn rhan o uwchgyfandir Pangea ac yn wlad gwernydd yn agos i'r cyhydedd. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o dywodfaen a siâl hefyd.
Canolfan Hyfforddi Glowyr Aberaman, Morgannwg yn 1951 | |
Enghraifft o'r canlynol | agweddau o ardal ddaearyddol |
---|---|
Math | y diwydiant glo |
Gwlad | Cymru |
Gweithredwr | Bwrdd Glo Cenedlaethol, perchnogaeth breifat, British Coal |
Gwladwriaeth | Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ei anterth, yn 1913, cloddiwyd 57 miliwn tunnell o lo gan 232,000 o lowyr ac erbyn 1920 roedd 271,000 o ddynion yn gweithio yn y diwydiant glo.[1]
Y 18fed a'r 19eg ganrif
golyguCloddiwyd glo Cymru am ganrifoedd, ond daeth yn danwydd pwysig iawn adeg y Chwyldro Diwydiannol. O ganlyniad datblygodd llawer o byllau glo a ffatrïoedd yn Ne Cymru gan ddwyn newid ysgubol i fywyd a diwylliant yr ardal honno. Agorwyd y pwll glo cyntaf yng Nghwm Rhondda gan Richard Griffiths yn 1790. Agorodd Walter Coffin y pwll glo dwfn cyntaf yng Nghwm Rhondda, yn 1811, ar lan afon Rhondda gyferbyn â gorsaf trenau Dinas Rhondda heddiw. Glo bitwmen a gloddid yma. Yn 1830 sefydlodd Robert Thomas (1770-1829) a'i wraig Lucy Thomas system i fasnachu glo Cymru yn Llundain yn ogystal â chloddio llawer o'r glo a oedd yng Nglofa Waun Wyllt ger Troed-y-rhiw ac Abercannaid, Merthyr Tudful i'w gwerthu'n uniongyrchol i'r cwsmer yn hytrach na thoddi haearn yn unig. Agorwyd y lofa gan ei gŵr yn 1824,[2] ac ystyriwyd ar y pryd mai dyma'r glo gorau, o ran safon y llosgi, drwy'r Cymoedd.
Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a elwid yn aml "y Ffed", yn dilyn methiant Streic Glowyr De Cymru 1898. Daeth yn gysylltiedig â Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yn 1899.
Yr 20fed ganrif
golyguOherwydd fod llawer o nwy yn bresennol yn y mesurau glo, ystyrid maes glo De Cymru yn un o'r peryclaf ym Mhrydain i weithwyr. Bu nifer fawr o drychinebau, yn eu plith Tanchwa Senghennydd, oedd un o'r trychinebau gwaethaf yn hanes y diwydiant glo yng ngwledydd Prydain a'r byd. Digwyddodd ym Mhwll Lancaster, Glofa'r Universal, ym mhentref glofaol Senghennydd, Morgannwg, ar 14 Hydref 1913. Collodd 430 o ddynion a bechgyn y pwll eu bywydau a hynny ar doriad gwawr. Y drychineb waethaf yng Ngogledd Cymru oedd trychineb Glofa Gresffordd, a ddigwyddodd ar 22 Medi, 1934, pan gafodd 265 o bobl eu lladd trwy ffrwydrad nwy yn y pwll.
Wedi'r Ail Ryfel Byd roedd tua trideg y cant o weithwyr Cymru yn gweithio yn y diwydiant glo neu dur. Cenedlaetholwyd y diwydiant glo yn 1946, gyda'r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn cael ei sefydlu dan Ddeddf Cenedlaetholi'r Diwydiant Glo, 1946, a dechreuodd ar ei waith ar 1 Ionawr, 1947.
Erbyn dechrau'r 1980au, roedd llawer o'r pyllau glo a'r ffatrïoedd wedi cau. Roedd modd mewnforio glo yn rhatach nag y gellid ei gynhyrchu yn lleol, ac yn sgil y crebachu ar ddiwydiant trwm cafwyd streiciau a phroblemau cymdeithasol yn Ne Cymru yn y 1970au a 1980au. Un o'r streiciau pwysicaf oedd Streic y Glowyr (1984-5), streic a alwyd gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr (yr NUM) dan Arthur Scargill, i wrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth Geidwadol dan Margaret Thatcher i gau nifer sylweddol o byllau glo. Roedd y Bwrdd Glo dan Ian McGregor yn bwriadu cau 20 o byllau a diswyddo 20,000 o lowyr.
Roedd y gefnogaeth i'r streic yn amwywio o ardal i ardal. Roedd yn uchel iawn ym Maes glo De Cymru, lle roedd dros 99% o'r gweithlu'n cefnogi'r streic ar y cychwyn, ond yn llawer is ym Maes glo Gogledd Ddwyrain Cymru, lle roedd tua 35% o'r gweithlu ar streic. Dechreuodd y streic ym mis Mawrth 1984, a daeth i ben ar 3 Mawrth 1985, pan orfodwyd y glowyr i ddychwelyd i'r gwaith. Yn y blynyddoedd dilynol, caewyd nifer o lofeydd De Cymru.
Mae Blaenafon wedi ei restru fel Safle Treftadaeth y Byd gan yr UNESCO achos ei fod yn dref diwydiant glo a haearn pwysig. Yn y dref, mae'n bosib gweld pwll glo yn Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Glofa Pwll Mawr.
Gweler hefyd
golygu- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 30 Rhagfyr 2023.
- ↑ mtht.co.uk; cofebau Cadw; Archifwyd 2014-04-28 yn y Peiriant Wayback adalwyd 30 Ionawr 2016