Amgueddfa Glowyr De Cymru

amgueddfa Glowyr yng Nghastell-nedd Port Talbot

Amgueddfa am y diwydiant glo a'i weithlu ym maes glo De Cymru yw Amgueddfa Glowyr De Cymru. Mae wedi ei leoli yn Nghwm Cynon o fewn Parc Coedwig Afan, ger pentref bychan Cymer ym Mhort Talbot.

Amgueddfa Glowyr De Cymru
Mathamgueddfa lofaol, sefydliad elusennol, amgueddfa annibynnol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1976 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAfan Argoed Edit this on Wikidata
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr159.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6415°N 3.7032°W Edit this on Wikidata
Cod postSA13 3HG Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Agorwyd yr amgueddfa, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn Mehefin 1976. Roedd prif nodweddion yr amgueddfa ar y pryd yn cynnwys golygfa o fwthyn traddodiadol y glöwr ac arddangosfa yn cynnwys lluniau a dogfennau hanesyddol[1] oedd yn adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol mwyngloddio yng Nghymru. Derbyniodd yr amgueddfa Wobr Tywysog Cymru yn 1976 a dwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn uchel yng Ngwobrau Amgueddfa Treftadaeth Genedlaethol y Flwyddyn. Cafodd yr amgueddfa ganmoliaeth uchel gan yr Awdurdod Twristiaeth Brydeinig yn ei chystadleuaeth "Dewch i Brydain".[1] Heddiw mae'r amgueddfa yn derbyn tua 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn.[2]

Adnoddau a arddangosfeydd golygu

Fe ail-agorwyd yr amgueddfa yn 2008 ar ôl gwaith ail-adeiladu, ac mae'n cynnwys ailgread o dwnnel mewn pwll glo, sy'n dangos modelau o blant yn cropian drwy'r gwagle tanddaearol. Mae yna hefyd stabl realistig gyda glöwr, ei ferlyn ac ôl-gerbyd. Ceir arddangosfeydd allanol hefyd sy'n cynnwys siop gof, ystafell lamp gyda lampau Davy, olwyn pen pwll, injan halio a dram glo.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "South Wales Miners' Museum". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-16. Cyrchwyd 2016-03-23.
  2. www.diggingupthepast.org.uk; The South Wales Miners Museum; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd Mawrth 2016.

Dolenni allanol golygu