Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau
amgueddfa yn Sir Ddinbych
Lleolir Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau yng Nghanolfan Iaith Clwyd ym Mhwll y Grawys, Dinbych. Sail yr arddangosfa yw casgliad David E Jones o radios, ac mae'n dathlu cyfraniad Cymry i ddatblygiad y radio. Ysgrifennodd David lyfr, Wireless in Wales, ond bu farw David yn 2008, cyn agoriad yr amgueddfa a chyhoeddiad ei lyfr ond yn ystod yr un flwyddyn. Roedd yn ymgyrchwr brwd dros sefydliad y Ganolfan Iaith.
Math | amgueddfa, amgueddfa annibynnol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 99.4 metr |
Cyfesurynnau | 53.183125°N 3.421529°W |
Cod post | LL16 3LG |