Canolfan Iaith Clwyd
Adeilad aml-ddefnydd yn Ninbych, Sir Ddinbych ydy Canolfan Iaith Clwyd. Roedd yr adeilad arfer bod yn gartref i lyfrgell y dref, ond heddiw mae'n bencadlys cwmni Popeth Cymraeg
Math | cymdeithas, canolfan gynadledda |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.183145°N 3.42141°W |
Llyfrgell Dinbych
golyguCanolfan Iaith Clwyd
golyguGwnaethpwyd apêl yn Ebrill 1988 gan David Jones, maer Dinbych – a dysgwr Cymraeg - i sefydlu Canolfan Iaith yn y dref, i atal gostyngiad pellach yn niferoedd siaradwyr Cymraeg ardal Dinbych.[1] Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus a siaradodd Elyn Rhys ac Ioan Talfryn. Sefydlwyd pwyllgor, ac erbyn mis Hydref, casglwyd mil o bunnau at y prosiect. Roedd llyfrgell Dinbych ar fin symud, felly awgrymwyd y byddai'r hen adeilad yn addas ar gyfer y ganolfan arfaethedig.[2]
Amcangyfrif y costau blynyddol oedd £30,000, a £40,000 yn y flwyddyn gyntaf. Cynigiwyd £1,500 gan Gyngor Tref Dinbych.[3]
Roedd angen £100,000 i atgyweirio'r adeilad, a rhoddwyd £25,000 gan Gyngor Bwrdeistref Glyndŵr.[4] Dechreuwyd cyrsiau WLPAN a chyrsiau ar gyfer y cyngor sir ym 1990.[5] ac agorwyd y ganolfan yn swyddogol ar 19 Hydref 1991 gan Syr Wyn Roberts AS.[6] Erbyn Medi 1993, roedd pumgwaith y nifer o ddysgwyr yn mynychu'r ganolfan, a datblygwyd cynllun i estyn yr adeilad.[7] Lansiwyd apêl ym Mawrth 1994[8] ac erbyn Medi, derbyniwyd £187,300 o'r Cronfa Loteri.[9] Agorwyd yr estyniad gan Rhodri Morgan yn Hydref 2000.[10]
Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau
golyguYn 2008, agorodd Dr John Davies Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau yng Nghanolfan Iaith Clwyd, yn dangos hanes radio yng Nghymru. Mae'r arddangosfa yn cynnwys radios o gasgliad y diweddar David Jones gan bod radio yn un o'i brif ddiddordebau.[11]