Amlieithrwydd yn Lwcsembwrg
Mae amlieithrwydd yn rhan o fywyd bob dydd dinasyddion Lwcsembwrg. Yn gyfreithiol ac yn gymdeithasol, mae sectorau gwahanol yng nghymdeithas Lwcsembwrg yn defnyddio Ffrangeg, Almaeneg a Lwcsembwrgeg, sef amrywiad ar Ffranconeg Moselle sy'n rhannol gyd-ddealladwy â'r Uchel Almaeneg ddaearyddol gyfagos ond â nifer fawr o eiriau benthyg o'r Ffrangeg. Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf o boblogaeth yn dysgu Saesneg ac mae'n bosib y byddan nhw'n astudio ieithoedd eraill hefyd. Mae nifer sylweddol o fewnfudwyr wedi dod â sawl iaith estron i'r wlad fach hon, yn enwedig Portiwgaleg, a siaredir gan fwy nag un rhan o bump o'r boblogaeth. Er hynny, fe ddefnyddir yr ieithoedd gwahanol hyn mewn sefyllfaoedd gwahanol mewn cymdeithas.
Ieithoedd swyddogol
golyguMae defnydd ieithoedd at ddibenion cyfreithiol a gweinyddol wedi'i reoleiddio gan ddeddf a gyhoeddwyd yn 1984, sy'n gosod yr erthyglau canlynol:
- Erthygl 1: Lwcsembwrgeg yw iaith genedlaethol y Lwcsembwrgiaid.
- Erthygl 2: Ffrangeg yw iaith deddfau.
- Erthygl 3: Yn y llywodraeth, gellir defnyddio Lwcsembwrgeg, Almaeneg a Ffrangeg.
- Erthygl 4: Pan ddaw at gwestiynau gweinyddol, os bydd dinesydd yn gofyn cwestiwn yn Lwcsembwrgeg, Almaeneg neu Ffrangeg, rhaid i'r weinyddiaeth ateb, cyn belled ag y bo modd, yn yr iaith y gofynnwyd y cwestiwn ynddi.
Mewn llawer o wledydd amlieithog eraill, megis Gwlad Belg, y Swistir a Chanada, mae'r ieithoedd wedi eu dosbarthu'n ddaearyddol, ond yn Lwcsembwrg, defnydd swyddogaethol sydd i'w hieithoedd, hynny yw, mae dewis yr iaith yn dibynnu ar y sefyllfa benodol.
Addysg
golyguYn yr ysgol, dysgir pob disgybl yn y tair iaith swyddogol wedi'u rhannu yn ôl grŵp oedran a phwnc ysgol. Yn yr ysgol gynradd, mae'r cyrsiau yn cael eu dysgu yn Almaeneg ac yn aml, rhoddir esboniadau yn Lwcsembwrgeg. Yn gyffredinol yn yr ysgol uwchradd, hyd at y 9fed radd (blwyddyn 10 Cymru), addysgir pob pwnc yn Almaeneg, ac eithrio mathemateg a'r gwyddorau, sy'n cael eu dysgu trwy'r Ffrangeg. Am weddill eu hamser yn yr ysgol, mae'r iaith yn dibynnu ar ba set y mae'r myfyrwyr ynddi. Yn y setiau uchaf, yn ogystal â mewn pynciau masnachol a gweinyddol, yn Ffrangeg mae'r cyrsiau'n bennaf, ond trwy'r ysgol uwchradd gyfan, rhoddir esboniadau yn Lwcsembwrgeg. Ar y llaw arall, mae'r setiau is yn tueddu i beidio â newid i'r Ffrangeg. O ganlyniad, nid yw Lwcsembwrgiaid yn gallu deall, darllen nac ysgrifennu'r iaith hon nes iddynt droi'n 8 oed fel arfer, ac felly iaith dramor y mae'n rhaid ei dysgu yw'r Ffrangeg, er bod y rhan helaeth o bobl yn medru cyfathrebu ynddi ar lefel weddol uchel erbyn 18 oed. Oherwydd tebygrwydd Almaeneg i Lwcsembwrgeg, a hefyd gan mai Almaeneg yw'r iaith gyntaf mae plant yn dysgu ysgrifennu ynddi yn yr ysgol, mae'r rhan fwyaf o Lwcsembwrgiaid yn ei hystyried hi yn ail iaith iddynt neu'n iaith "darllen ac ysgrifennu".
Llywodraeth
golyguYsgrifennir gwefannau'r llywodraeth yn bennaf yn Ffrangeg[1][2] ond ceir rhannau ohonynt ar gyfer tramorwyr mewn ieithoedd eraill megis Saesneg[3] ac Almaeneg.[4] Yn senedd Lwcsembwrg, mae deddfau Siambr y Dirprwyon yn cael eu hysgrifennu yn Almaeneg yn gyntaf. Yna, Lwcsembwrgeg yw iaith y dadlau ond weithiau bydd hyn yn Ffrangeg, er enghraifft, wrth ddyfynnu deddfau. Pleidleisir dros ddeddfau ac chânt eu codeiddio yn Ffrangeg.
Mae gwefan pennaeth y wlad, yr Archddug, yn Ffrangeg[5] ond mae'n gwneud ei araith bersonol Nadoligaidd yn Lwcsembwrgeg[6], er y darperir cyfieithiad Ffrangeg[7]. Yn ei araith yn 2018, fel yn y gorffennol, siaradodd yn Lwcsembwrgeg am y rhan fwyaf o'r araith ond pan oedd yn sôn am bwysigrwydd tramorwyr yn Lwcsembwrg, trodd yn sydyn at y Ffrangeg gan mai hon yw'r iaith a ddefnyddia trigolion tramor gan amlaf.[8]
Y cyfryngau torfol
golyguYn y wasg ysgrifenedig, y mae'r rhan fwyaf o bapurau newydd fel Tageblatt a Lëtzebuerger Journal yn Almaeneg, tra bo rhai fel Le Quotidien yn Ffrangeg. Ar y llaw arall, mae'r papur newydd cenedlaethol Luxemburger Wort yn deirieithog â'r rhan fwyaf o'i erthyglau yn Almaeneg, ond weithiau yn Ffrangeg a Lwcsembwrgeg hefyd, yn aml ar yr un dudalen.
Ar y teledu a'r radio, Lwcsembwrgeg a ddefnyddir yn bennaf, er enghraifft, ym mhrif raglen newyddion RTL, de Journal. Mae dylanwad cryf Almaeneg safonol ar ynganiad ac ieithwedd Lwcsembwrgeg llafar darllediadau newyddion.[9] Mae hyn oherwydd bod pwysau ar ddarlledwyr radio i gyfieithu datganiadau newyddion o asiantaethau gwasg yr Almaen mewn amser real ac nid ydynt wedi derbyn unrhyw hyfforddiant arbennig yn arddull rhyddiaith Lwcsembwrgeg. O ganlyniad, mae'r newyddion yn tueddu i gael eu cyfieithu i'r Lwcsembwrgeg ond mewn ffordd arwynebol. Mae'r gystrawen yn tueddu i ddilyn Almaeneg safonol ac mae llawer o eiriau ac idiomau o'r Almaeneg yn codi heb eu haddasu.[9] Mae'n effeithio ar y ffonoleg hefyd, sy'n arwain at ymadroddion goslef dieithr i Lwcsembwrgeg.[10]
Hysbysebion
golyguYm myd hysbysebu, mae'r iaith a ddefnyddir yn dibynnu ar dri ffactor: y cyfrwng, y gynulleidfa a'r ffynhonnell. Mewn hysbysebion ysgrifenedig fel hysbysfyrddau, hysbysebion mewn papurau newydd a chylchgronau, catalogau a phosteri, Ffrangeg yw'r iaith arferol. Er mwyn ychwanegu ychydig o flas lleol iddynt, fe'u hysgrifennir yn rhannol yn Lwcsembwrgeg hefyd. Mae arwyddion cyhoeddus fel arfer yn Ffrangeg, gyda Lwcsembwrgeg, Almaeneg a/neu Saesneg i'w gweld o bryd i'w gilydd.
Mewn hysbysebion teledu ar RTL, os oes hysbyseb am nwydd neu wasanaeth rhyngwladol fel car neu deledu, byddant yn gyfan gwbl yn Ffrangeg. Fodd bynnag, os ydynt yn hysbysebu nwydd neu wasanaeth domestig, er enghraifft dŵr mwynol Rosport neu gwmni awyrennau Luxair, Lwcsembwrgeg yw'r iaith lafar a Ffrangeg yw iaith y sloganau, neu weithiau Lwcsembwrgeg neu Saesneg.[11][12]
Defnydd bob dydd
golyguYn gyffredinol, defnyddir Lwcsembwrgeg o ddydd i ddydd yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd anffurfiol trwy gydol y wlad. Mae Almaeneg safonol a Ffrangeg yn cael eu defnyddio mewn sefyllfaoedd a seremonïau ffurfiol. Ar ben hynny, defnyddir Ffrangeg fel arfer yn y diwydiant lletygarwch. Mae'r rhan fwyaf o bapurau newydd a chyfryngau print yn Almaeneg safonol.[13] Mae oddeutu 98% o Lwcsembwrgiaid yn medru o leiaf un ail iaith.[14]
Lwcsembwrgeg ysgrifenedig
golyguDechreuodd traddodiad llenyddol yr iaith Lwcsembwrgeg yn y 1820au wrth i farddoniaeth ddifrif ddechrau datblygu, a ddilynwyd wedyn gan gan ddrama ac yna rhyddiaith naratif.[10] Serch hyn, mae siaradwyr Lwcsembwrgeg cyffredin yn ei chael yn anodd darllen testunau yn Lwcsembwrgeg. Nid yw plant ysgol yn darllen Lwcsembwrgeg tan yn 11 neu'n 12 oed a hyd yn oed pryd hynny, nid yw pob athro yn cadw at ofynion y cwricwlwm i ddysgu Lwcsembwrgeg ysgrifenedig iddynt. Mae'n well gan rai ddysgu Almaeneg safonol yn ei lle ac felly mae'n bosib na fydd rhai disgyblion yn dysgu sut mae ysgrifennu Lwcsembwrgeg o gwbl. O ganlyniad, dim ond lleiafrif o lenorion sy'n cael blas ar ddarllen Lwcsembwrgeg ac mae'r mwyafrif o Lwcsembwrgiaid yn ystyried eu hiaith yn un lafar yn unig.[10] Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r cynnydd mewn negeseuon testun a'r cyfryngau cymdeithasol wedi gwneud ysgrifennu Lwcsembwrgeg yn ffenomen lawer mwy cyffredin ymhlith y to iau.
Mewn gohebiaeth breifat, mae dewis yr iaith yn tueddu i adlewyrchu dosbarth cymdeithasol y defnyddiwr. Mae'n well gan y dosbarthiadau uchaf a chanol uchaf ddefnyddio Ffrangeg, er y byddant yn defnyddio Lwcsembwrgeg i gyfleu ymdeimlad o uniaethu â'u cenedligrwydd. Nid yw'r dosbarth uchaf yn bleidiol i'r Almaeneg gan gymryd nad yw'r rhai sy'n ysgrifennu yn Almaeneg yn medru'r Ffrangeg yn ddigon da. Er hyn, mae'n well gan leiafrif o bobl dosbarth uchaf ddefnyddio Almaeneg safonol yn eu gohebiaeth â pherthnasau agos. Daw'r defnydd o Almaeneg ac yna Lwcsembwrgeg yn amlycaf wrth fynd i lawr y raddfa gymdeithasol, lle y mae'r Ffrangeg ar ei lleiaf poblogaidd.[15]
Yn gyffredinol, mewn gohebiaeth rhwng perthnasau, ffefrir Almaeneg ac yna Ffrangeg a Lwcsembwrg yn gyfartal â'i gilydd, er y bydd statws cymdeithasol yn cael dylanwad arni. Pan fydd pobl nad ydynt yn perthyn i'w gilydd yn gohebu, mae'r defnydd o Lwcsembwrgeg yn gostwng yn sylweddol ac nid yw'n tueddu i gael ei ddefnyddio o gwbl rhwng dieithriaid. Ymddengys felly fod dewis Lwcsembwrgeg neu beidio yn adlewyrchu agosatrwydd neu ei ddiffyg rhwng y ddau sy'n gohebu.[15]
Nodiadau
golygu- ↑ "gouvernement.lu - Accueil". www.gouvernement.lu (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2017-11-10.
- ↑ "Luxembourg" (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2017-11-10.
- ↑ "Luxembourg" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-03. Cyrchwyd 2017-11-10.
- ↑ "Luxemburg" (yn Almaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-13. Cyrchwyd 2017-11-10.
- ↑ "Cour Grand-Ducale de Luxembourg - Accueil". www.monarchie.lu (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2017-11-10.
- ↑ "RTL - de Journal - Chrëschtusprooch vum Grand-Duc". RTL. 2014-12-24.
- ↑ "Discours de Noël prononcé par S.A.R. le Grand-Duc (version FR) - Cour Grand-Ducale de Luxembourg - Décembre 2014". www.monarchie.lu (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2017-11-10.
- ↑ "Discours de Noël prononcé par S.A.R. le Grand-Duc - Cour Grand-Ducale de Luxembourg - Décembre 2018". www.monarchie.lu (yn Luxembourgish a French). 2018-12-24. Cyrchwyd 2019-05-12.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 9.0 9.1 Fernand Hoffman, "Textual varieties of Lëtzebuergesch", in Newton, p. 219
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Fernand Hoffman, "Lëtzebuergesch, spoken and written, developments and desirabilities", in Newton, pp. 114 - 118
- ↑ Sources Rosport (2018-04-16), Rosport mat: Introducing Zitroun, https://www.youtube.com/watch?v=wgUmr8BBcUM, adalwyd 2018-07-25
- ↑ Luxair Luxembourg Airlines (2015-10-15) (yn Luxembourgish, French), Luxair commercial from 1982, https://www.youtube.com/watch?v=W-Y07TZHfyc, adalwyd 2017-12-05
- ↑ Jean-Paul Hoffman, "Lëtzebuergesch and its competitors: Language contact in Luxembourg Today" in Newton, p. 102
- ↑ "Most Europeans can speak multiple languages. UK and Ireland not so much". 26 September 2014.
- ↑ 15.0 15.1 Fernand Hoffman, "The domains of Lëtzebuergesch", in Newton, pp. 134 - 135
Cyfeiriadau
golygu- DICKES, P.; BERGOZA, Guayarmina, Les compétences linguistiques auto-attribuées.[dolen farw] Les cahiers du CEPS/INSTEAD, Population & Emploi, cahier 2010-19, Septembre 2010. ISSN 2077-3048.
- FEHLEN, F., BaleineBis : Une enquête sur un marché linguistique multilingue en profonde mutation - Luxemburgs Sprachenmarkt im Wandel. RED N° 12, SESOPI Centre Intercommunautaire, 2009.
- WEBER, J.J. Multilingualism, Education and Change Frankfurt, Peter Lang Verlag, 2009
- HORNER, K. and WEBER, J.J. The language situation in Luxembourg, Current Issues in Language Planning 9,1, 2008, 69-128
- Nodyn:In lang Projet Moien!, Sproochenhaus Wëlwerwoltz (Hg.), Lëtzebuergesch: Quo Vadis? Actes du cycle de conférences, Mamer: Ondine Conseil 2004
- WEBER,N. The universe under the microscope: The complex linguistic situation in Luxembourg, in De Bot, C./Kroon, S./Nelde, P./Vande Velde, H. (eds.), Institutional Status and use of languages in Europe Bonn, Asgard, 2001, 179-184
- MAGÈRE, Ph., ESMEIN, B., POTY, M., La situation de la langue française parmi les autres langues en usage au Grand-Duché de Luxembourg. Luxembourg, Centre culturel français, 1998
- NEWTON, G. (ed.) Luxembourg and Lëtzebuergesch: Language and Communication at the Crossroads of Europe, Oxford, 1996