Almaeneg Safonol

Y fersiwn ar yr iaith Almaeneg a ddefnyddir gan fwyaf ar gyfer ysgrifennu, dogfennau a'r cyfryngau.

Almaeneg Safonol (Almaeneg: Standarddeutsch, Standardhochdeutsch ar lafar ac yn gyffredin Hochdeutsch, yn y Swistir: Schriftdeutsch) yw'r amrywiaeth safonol o Almaeneg a ddefnyddir mewn iaith ysgrifenedig, mewn cyd-destunau ffurfiol ac ar gyfer cyfathrebu rhwng gwahanol parthau tafodieithol.[1] Dyma hefyd amrywiaeth mwyaf cyffredin yr iaith Almaeneg heddiw. Math o Dachsprache sef to neu ambarél sy'n cwmpasu continiwm tafodiaith yw'r Almaeneg, ac fe'i hystyrir yn blwrisentrig gan fod ganddi dri amrywiolyn cenedlaethol wedi'u safoni: Almaeneg Safonol yr Almaen, Almaeneg Safonol Awstria, ac Almaeneg Safonol y Swistir.[2] Arddelwyd y term Uchel Almaeneg hefyd yn y Gymraeg,[3] ond prin y defnyddir hynny yn gyfredol, mae'r term "Hochdeutsch" yn cael ei harddel hyd yn oed mewn sgwrs yn Gymraeg.[angen ffynhonnell]

Almaeneg Safonol
Enghraifft o'r canlynoliaith, iaith safonol Edit this on Wikidata
Mathtafodieithau Uwch-Germanig Edit this on Wikidata
System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
Amrywiaethau'r iaith Almaeneg
 
Martin Luther, 1528, a ystyrir iddo wneud mwy na neb yn y blynyddoedd cynnar i roi sail i Almaeneg Safonol gyda'i gyfieithiad o'r Beibl

Nid fel tafodiaith draddodiadol o ranbarth penodol yr esblygodd Almaeneg Safonol, ond fel iaith ysgrifenedig a ddatblygodd dros ganrifoedd wrth i awduron geisio ysgrifennu mewn modd a ddeellid dros yr ardal fwyaf posib.

Roedd cyfieithiad Martin Luther o'r Beibl yn 1522 yn ddatblygiad pwysig tuag at safoni Almaeneg ysgrifenedig cynnar. Seiliodd Luther ei gyfieithiad yn bennaf ar iaith siawnsri tiroedd Sacsoni, a oedd wedi'i datblygu eisoes. Roedd rhagor o bobl yn deall yr amrywiolyn hwn o'i gymharu â thafodieithoedd eraill, a theimlwyd ei bod "hanner ffordd" rhwng tafodieithoedd y gogledd a'r de, a hithau'n un o dafodieithoedd Almaeneg Canolog. Tynnodd Luther yn bennaf ar dafodieithoedd Dwyrain Uchaf a Dwyrain Canol Almaeneg a chadwodd lawer o system ramadegol Uchel Almaeneg Canol.

Yn ddiweddarach yn 1748, roedd llawlyfr gramadeg gan Johann Christoph Gottsched, Grundlegung einer deutschen Sprachkunst, yn allweddol yn natblygiad ysgrifennu Almaeneg a safoni'r iaith. Yn debyg i Luther, seiliodd Gottsched ei lawlyfr ar amrywiolyn Canol Almaeneg ardal Sacsoni Uchaf (Dresden) a rhannau o Thuringia.[4] Drwy ganol y 18g ac wedi hynny, dechreuodd safon ysgrifenedig ddod i'r amlwg a chael ei derbyn yn eang mewn ardaloedd Almaeneg eu hiaith, gan ddod â chyfnod yr Uchel Almaeneg Newydd Cynnar i ben.

Hyd at tua 1800, iaith ysgrifenedig oedd Almaeneg Safonol i bob pwrpas. Roedd pobl yng Ngogledd yr Almaen a oedd yn siarad tafodieithoedd Sacsonaidd Isel yn bennaf, a oedd yn wahanol iawn i Almaeneg Safonol, yn ei dysgu fwy neu lai fel iaith dramor. Fodd bynnag, yn ddiweddarach ystyrid ynganiad y Gogledd (o Almaeneg Safonol) yn safonol[5] a lledaenodd yr ynganiad gogleddol tua'r de. Yn ardal Hanover a rhai ardaloedd eraill, mae'r dafodiaith leol wedi diflannu'n llwyr fel iaith lafar ond fe'i cedwir mewn llenyddiaeth dafodiaith a disgrifiadau ysgolheigaidd.

Gellir dadlau felly mai lledaeniad Almaeneg Safonol fel iaith a addysgir yn yr ysgol sy'n diffinio Sprachraum neu barth ieithyddol yr Almaeneg, a oedd felly'n benderfyniad gwleidyddol, yn hytrach na chanlyniad uniongyrchol i ddaearyddiaeth dafodiaith. Roedd hynny'n caniatáu i ardaloedd â thafodieithoedd ag ychydig iawn o gyd-ddealltwriaeth ddod yn rhan o'r un byd diwylliannol. Mae rhai ieithyddion yn honni heddiw bod egwyddor "Un Almaeneg Safonol" yn diffinio beth yw Germanistik (Almaenrwydd).[6] Y tu allan i'r Swistir, Awstria a De Tyrol, mae tafodieithoedd lleol yn tueddu i gael eu defnyddio'n bennaf mewn sefyllfaoedd anffurfiol neu gartref ac mewn llenyddiaeth dafodieithol,[7] ond yn fwy diweddar, mae adfywiad o dafodieithoedd Almaeneg wedi ymddangos yn y cyfryngau torfol.

Disgrifiad

golygu
Siaradwr Almaeneg Safonol, 'Hochdeutsch' yr Almaen

Nid fel tafodiaith draddodiadol o ardal benodol y tarddodd Almaeneg Safonol, ond fel iaith ysgrifenedig, datblygodd dros ganrifoedd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd awduron yn ceisio ysgrifennu mewn ffordd y gellid ei deall dros ardaloedd eang.Roedd pobl yng Ngogledd yr Almaen a oedd yn siarad tafodieithoedd Sacsonaidd Isel yn bennaf, a oedd yn wahanol iawn i Almaeneg Safonol, yn ei dysgu fwy neu lai fel iaith dramor. Fodd bynnag, yn ddiweddarach ystyrid ynganiad y Gogledd (o Almaeneg Safonol) yn safonol[5] a lledaenodd yr ynganiad gogleddol tua'r de.

Nid oes unrhyw gorff swyddogol yn deddfu ar sut i ynganu'r iaith, ond mae ynganiad safonol de facto ("Bühnendeutsch"), a ddefnyddir amlaf mewn lleferydd ffurfiol a deunyddiau addysgu; mae'n debyg i'r Almaeneg ffurfiol a siaredir yn Hannover (sydd yng nghanol yr Almaen yn ddaearyddol) a'r cyffiniau. Mae ymlyniad at y safon hon gan unigolion a chwmnïau preifat, gan gynnwys cyfryngau print a darlledu, yn gwbl wirfoddol, ond yn gyffredin ac yn eang.

Terminoleg

golygu

Mewn astudiaethau Almaeneg, dim ond y mathau rhanbarthol a thraddodiadol o Almaeneg sy'n cael eu hystyried yn dafodieithoedd, nid y gwahanol fathau o Almaeneg Safonol. Ystyrir y rheini'n Umgangssprachen ac maent wedi disodli tafodieithoedd lleol yn yr Almaen ers y 19g. Mae'r amrywiolynnau hyn o Almaeneg Safonol yn gymysgedd o hen elfennau tafodieithol gydag Almaeneg Safonol.

Yn yr Almaeneg, gelwir Almaeneg Safonol yn Hochdeutsch, sy'n golygu "Uchel Almaeneg" mewn ystyr ddiwylliannol ac addysgol. Fodd bynnag, ystyr daearyddol oedd i'r term yma'n wreiddiol, gan gyfeirio at yr iaith a siaredir yn ucheldiroedd de'r Almaen, Awstria a'r Swistir, gan gyferbynnu â'r Isel Almaeneg (sy'n amrywiad ar "Plattdeutsch") a siaredir yng ngogledd y wlad. Er mwyn osgoi dryswch, mae rhai yn ei alw'n Standarddeutsch. Ar y llaw arall, gelwir yr iaith Almaeneg a siaredir yn ardaloedd mynyddig y de hefyd yn Oberdeutsch tra bod Hochdeutsch wedi'i neilltuo ar gyfer yr iaith safonol.

Lluosogrwydd

golygu

Ers yr 1980au, ystyrir yr Almaeneg yn iaith aml-ganolog (pluricentric) gyda safonau cenedlaethol ar gyfer yr Almaen, Awstria, a'r Swistir. Ceir gwahaniaethau, fwy na dim, mewn geirfa, pragmateg ac ynganiad; mae gwahaniaethau o ran gramadeg mewn rhai achosion, ac o ran orgraff mewn llond llaw o enghreifftiau. Mewn ysgrifen ffurfiol, mae'r gwahaniaethau'n fychan ac mae'n anodd neu hyd yn oed yn amhosibl dirnad pa amrywiolyn o'r iaith safonol a ddefnyddiwyd ond, ym maes yr iaith lafar, mae gwahanol amrywiolion Almaeneg Safonol yn amlwg i'r rhan fwyaf o siaradwyr.[7]

Yn ogystal, mae yna ieithyddion sy'n credu bod amrywiaethau o Almaeneg Safonol yn bodoli o fewn yr Almaen ei hun. Yn ystod cydfodolaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen a Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, bu astudiaethau achlysurol yn cwestiynu a oedd gwahaniaethau rhwng amrywiolion iaith safonol y ddwy weriniaeth. Y safon genedlaethol yn yr Almaen sy'n weithredol ymysg cymunedau Almaeneg eu hiaith yn Lwcsembwrg, Gwlad Belg, a Namibia tra bod y safon y Swistir wedi ei mabwysiadu yn Liechtenstein.[8]

Er bod gan dafodieithoedd lleol ryw lun ar ddylanwad ar yr Almaeneg Safonol, ni ddylid drysu'r naill a'r llall. Mae Almaeneg Safonol o bob math yn seiliedig ar draddodiad cyffredin yr iaith ysgrifenedig, tra bod gan dafodieithoedd lleol eu gwreiddiau hanesyddol eu hunain, sy'n hŷn o lawer na hanes uno'r iaith ysgrifenedig.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. E.g.
    • Wolfgang Wölck (from Buffalo, USA): Language Use and Attitudes among Teenagers in Diglossic Northern Germany. In: Language Contact in Europe: Proceedings of the Working groups 12 and 13 at the XIIIth International Congress of Linguistics, August 29 – September 4, 1982, Tokyo, edited by Peter H. Nelde, P. Sture Ureland and Iain Clarkson. Volume 168 of Linguistische Arbeiten, edited by Hans Altmann, Herbert E. Brekle, Hans Jürgen Heringer, Christian Rohrer, Heinz Vater and Otmar Werner. Max Niemeyer Verlag, Tübingen, 1986, p. 97ff., here p. 99
    • Iwar Werlen: Swiss German Dialects and Swiss Standard High German. In: Variation and Convergence: Studies in Social Dialectology, edited by Peter Auer and Aldo di Luzio. Walter de Gruyter, Berlin / New York, 1988, p. 94
  2. Dollinger, Stefan (2019). "Debunking "pluri-areality": on the pluricentric perspective of national varieties". Journal of Linguistic Geography 7 (2): 101, Fig. 3. doi:10.1017/jlg.2019.9. https://www.academia.edu/38389481.
  3. "Almaeneg". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 17 Medi 2024.
  4. Dieter Kattenbusch: Zum Stand der Kodifizierung von Regional- und Minderheitensprachen. In: Bruno Staib (Hrsg.): Linguista Romanica et indiana. Gunter Narr, Tübingen, 2000, ISBN 3-8233-5855-3, p.211.
  5. 5.0 5.1 König 1989, t. 110.
  6. Dollinger, Stefan (2023). "Prescriptivism and national identity: sociohistorical constructionism, disciplinary bias, and Standard Austrian German". In Beal, Joan C (gol.). Routledge Handbook of Prescriptivism. Abingdon: Routledge. tt. 14–15.
  7. 7.0 7.1 Dollinger, Stefan (2021). Österreichisches Deutsch oder Deutsch in Österreich? Identitäten im 21. Jahrhundert (yn Almaeneg) (arg. 3rd). Vienna: New Academic Press. tt. 58, 51 on dialect use in AT and DE.
  8. Karina Schneider-Wiejowski, Birte Kellermeier-Rehbein, Jakob Haselhuber: Vielfalt, Variation und Stellung der deutschen Sprache. Walter de Gruyter, Berlin, 2013, p.46.