Amlyn ac Amig (drama)

drama gan Saunders Lewis
(Ailgyfeiriad o Amlyn ac Amig)

Drama gomedi gan Saunders Lewis ydy Amlyn ac Amig a gyhoeddwyd gyntaf yn 1940 gan Wasg Aberystwyth. Mae'r ddrama ar ffurf cerdd yn troi o gwmpas y syniad fod achubiaeth yn ddibynnol ar weithred o'r galon, gweithred afresymol, ar un golwg. Yn ei isymwybod, efallai fod Saunders yn ceisio esbonio pam y gweithredodd gwta 4 mlynedd ynghynt pan y llosgodd ysgol fomio Prydeinig Penyberth ar 8 Medi 1936.

Amlyn ac Amig
Enghraifft o'r canlynoldrama Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1940 Edit this on Wikidata
Genrecomedi Edit this on Wikidata

Y stori golygu

Roedd stori o'r enw'n boblogaidd iawn drwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Ceir fersiwn Gymreig ohoni yn Llyfr Coch Hergest, o'r 14g.[1]

Mae'r stori'n ymwneud â dau fachgen a anwyd ar yr un diwrnod ac sydd mor debyg, yn gorfforol, nes ei bod yn anodd iawn gwahaniaethu rhyngddyn nhw. Yn y fersiwn Gymraeg, mae'r dau gyfaill yn cael eu lladd mewn brwydr. Oherwydd eu bod mor driw i'w gilydd maen nhw'n gwneud camgymeriadau enbyd: twyllo eu pennaeth ac mewn ysgarmes, lladd cyfaill ac aberthu fau fachgen ifanc. Mae'r fersiwn gyntaf o'r stori yn y Lladin ac yn dyddio i 1090.

Mae'r stori wreiddiol yn perthyn i Oes y Celtiaid.

Dyfyniad o'r ddrama golygu

  • Rhodio fel un a wêl a gwybod nos y deillion Yw bywyd beunyddiol ffydd. (Amig)

Cyfeiriadau golygu

  1. Celtic Culture, Llyfrau Googl; adalwyd 16 Gorffennaf 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.