Llyfr Coch Hergest
Llawysgrif hynafol yn yr iaith Gymraeg, a ysgrifennwyd tua 1382-1410, yw Llyfr Coch Hergest. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r Mabinogi a cheir ynddi ogystal sawl testun rhyddiaith Cymraeg Canol arall ac adran bwysig o gerddi.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | codex, Brut y Tywysogion, gwaith ysgrifenedig ![]() |
Awdur | amryw o awduron ![]() |
Iaith | Cymraeg, Saesneg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1380s ![]() |
Lleoliad | Llyfrgell Bodley ![]() |
Yn cynnwys | Historia Regum Britanniae, Peniarth 20, Ystorya de Carolo Magno, Breuddwyd Rhonabwy, Trioedd Ynys Prydain, Pedair Cainc y Mabinogi, Meddygon Myddfai, Amlyn ac Amig ![]() |
![]() |
Roedd ym meddiant y brudiwr a noddwr Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan ac Ynysdawe ar ddechrau'r 15g. Ychwanegwyd haen o gerddi tua'r flwyddyn 1400, yn cynnwys awdlau moliant i Hopcyn gan feirdd fel Dafydd y Coed.
Daw’r enw am ei bod wedi ei rwymo mewn lledr coch, a’i gysylltiad gyda Phlas Hergest yn Swydd Henffordd. Ymddengys iddo ddod i feddiant John Vaughan o Dretŵr yn 1465 ac iddo fynd oddi yno i Hergest. Bu ym meddiant y teulu hyd ddechrau'r 17g a dyna pam y cafodd yr enw. Fe roddwyd y llyfr gan y Parch. Thomas Wilkins i Goleg Yr Iesu, Rhydychen yn 1701, ac mae ar gadw yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen.
CynnwysGolygu
- Ystorya Dared
- Historia Regum Brittaniae (Brut Sieffre o Fynwy)
- Brut y Tywysogion
- Ystorya de Carolo Magno a chwedlau eraill am Siarlymaen
- Delw y Byd
- Chwedlau Saith Ddoethion Rhufain
- Breuddwyd Rhonabwy
- Detholiad o Drioedd
- Pedair Cainc y Mabinogi
- Ystorya Bown o Hamtwn
- Testunau Meddygon Myddfai
- Amlyn ac Amig
- Testun o un o ramadegau'r beirdd
- Casgliad o ddiharebion Cymraeg
- Testunau gwaith rhai o Feirdd y Tywysogion
- Testunau cerddi eraill, gan rai o feirdd y 14eg ganrif
FfynonellauGolygu
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- "Llyfr Coch Hergest", yn Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)