Amlyn ac Amig (llawysgrif)

llawysgrif o'r 14g a geir o fewn i Lyfr Coch Hergest

Chwedl Gymraeg ganoloesol sy'n perthyn i nifer o gerddi Ewropeaidd tebyg, o'r un cyfnod yw Amlyn ac Amig. Mae'r storiau hyn, yn eu tro, yn seiliedig ar stori Geltaidd llawer hŷn.

Jesus-College-MS-111 00541 271r.jpg
Tudalen gyntaf Amlyn ac Amig: Yn yr amser yr oedd pepyn hen yn fren-hin yng ngwlat ffringa y ganet mab y farchog arderchog bon+hedig o'r Almaen..."
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1390s Edit this on Wikidata
LleoliadColeg yr Iesu Edit this on Wikidata

Roedd stori o'r enw'n boblogaidd iawn drwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Ceir fersiwn Gymreig ohoni yn Llyfr Coch Hergest, o'r 14g.[1]

Y testun a'i ddyddiadGolygu

Cedwir yr unig gopi canoloesol o Amlyn ac Amig yn Llyfr Coch Hergest (Coleg yr Iesu, Rhydychen MS 111; c. 1375-1425).[2]

CrynodebGolygu

Mae'r stori'n ymwneud a dau fachgen a anwyd ar yr un diwrnod ac sydd mor debyg, yn gorfforol, nes ei bod yn anodd iawn gwahaniaethu rhyngddyn nhw. Yn y fersiwn Gymraeg, mae'r dau gyfaill yn cael eu lladd mewn brwydr. Oherwydd eu bod mor driw i'w gilydd maen nhw'n gwneud camgymeriadau enbyd: twyllo eu pennaeth ac mewn ysgarmes, lladd cyfaill ac aberthu fau fachgen ifanc. Mae'r fersiwn gyntaf o'r stori yn y Lladin ac yn dyddio i 1090.

LlyfryddiaethGolygu

Y golygiad safonol o'r testun yw:

Ceir ymdriniaeth gan Dafydd Glyn Jones yn,

  • Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974)

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Celtic Culture: A-Celti. ABC-CLIO. 2006. t. 525. ISBN 978-1-85109-440-0.
  2. "File G6900. - Llungopi o ddalen o Lyfr Coch Hergest (Jesus College MS CXI, Llyfrgell Bodley, Rhydychen) colofnau 1115-16". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2021.