Mewn cerddoriaeth, mae amrywiad yn dechneg ffurfiol lle mae deunydd yn cael ei ailadrodd ar ffurf wedi'i newid. Gall y newidiadau gynnwys alaw, rhythm, harmoni, gwrthbwynt, timbre, trefniant cerddorfaol neu unrhyw gyfuniad o'r rhain.

Mae egwyddor amrywiad yn eang iawn ac i ryw raddau mae i'w chael mewn llawer o gyd-destunau cerddorol; fodd bynnag, mae'r term yn cael ei gymhwyso'n fwy penodol yn ffurf gerddorol thema ac amrywiadau, lle dilynir thema gan gyfres o fersiynau ohoni'i hun, pob un yn cael cymeriad unigryw, ac yn aml yn dod yn fwy cymhleth neu'n fwy cyferbyniol yn ystod y gyfres. Gallai'r thema sydd i'w hamrywio fodoli eisoes (efallai'n un sy'n gyfarwydd i wrandawyr) neu wedi'i chyfansoddi'n arbennig ar gyfer y cyfleoedd cerddorol mae'n eu cynnig. Cyfansoddiad o'r math cyntaf fyddai Variations on "America" (1891) gan Charles Ives, lle mae'r cyfansoddwr yn defnyddio'r alaw America (mwy cyfarwydd yn y Deyrnas Unedig fel alaw God Save the Queen); cyfansoddiad o'r ail fath fyddai Amrywiadau Goldberg gan J. S. Bach, sy'n defnyddio thema hollol wreiddiol.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.