Amrywiadau Goldberg

Deg amrywiad ar hugain ar thema wreiddiol ar gyfer harpsicord dau seinglawr, gan Johann Sebastian Bach, yw Amrywiadau Goldberg, BWV 988. Fe'u cyhoeddwyd yn Nürnberg yn ystod oes y cyfansoddwr, yn 1741, fel Rhan IV o'i Clavier-Ubung.[1] Daw'r llysenw "Goldberg" o'r chwedl, y tybir bellach, nad yw'n wir, iddynt gael eu comisynu gan lysgennad Rwsia i Sacsoni, Iarll Keyserling, a oedd yn dioddef o anhunedd, er mwyn i'r harpsicordydd Johann Gottlieb Goldberg eu chwarae i'w ddiddanu yn ystod ei nosweithiau di-gwsg.

Amrywiadau Goldberg

Sarabande mewn dwy adran gytbwys yw'r thema, neu "Aria", a chedwir y bas a'r stwythur harmonig ar eu hyd yn yr holl 30 amrywiad sy'n dilyn. Daw'r amrywiadau yr Aria bob yn dri, yr olaf o bob tri yn ganon. Mae'r canonau yn dilyn ei gilydd ar gyfyngau cynyddol o'r unsain i'r nawfed. Mae'r un olaf yn Quodlibet, sy'n cyflwyno dau alaw boblogaidd yn wrthbwynt dros yr harmonïau.

Mae'r gwaith yn un sylweddol, gyda hyd o 60 i 80 munud, os caiff ei berfformio gyda'r holl ailadroddiadau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Clavier Ubung / bestehend / in einer ARIA / mit verschiedenen Verænderungen / vors Clavicimbal / mit 2 Manualen. / Denen Liebhabern zur Gemüths- / Ergeizung verfertiget von / Johann Sebastian Bach / Königl. Pohl. u. Churfl. Sæchs. Hoff- / Compositeur, Capellmeister, u. Directore / Chori Musici in Leipzig. / Nürnberg in Verlegung / Balthasar Schmids
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.