God Save the King
Anthem a geir mewn sawl gwlad, yn arbennig y gwledydd sy'n aelod o'r Gymanwlad, yw God Save the King neu God Save the Queen. Hon yw anthem genedlaethol y Deyrnas Unedig a thiriogaethau tramor Prydain. Mae fersiwn o'r anthem hefyd yn anthem genedlaethol Ynys Norfolk, un o ddwy anthem genedlaethol Ynysoedd Caiman a Seland Newydd (ers 1977) ac anthem brenhinol Canada (ers 1980), Awstralia (ers 1984), Ynys Manaw, Jamaica, Liechtenstein, Twfalw a Norwy (Gud Sign Vår Konge God). Dyma anthem genedlaethol de facto Lloegr hefyd, er nad oes gan y wlad honno anthem genedlaethol swyddogol, a genir cyn gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol ac ar achlysuron eraill.
Fersiwn safonol y Deyrnas Unedig
God Save the King (fersiwn safonol) |
* Pan mae'r un sy'n teyrnasu yn fenywaidd newidir y geiriau yn y llinell olaf i "with heart and voice to sing/ God Save the Queen". Newidir hefyd "Scatter Her Enemies" yn "Scatter Her Enemies". |
Yn 1822 ychwanegwyd y pennill hiliol canlynol:
- Lord, grant that Marshal Wade,
- May by thy mighty aid,
- Victory bring.
- May he sedition hush,
- and like a torrent rush,
- Rebellious Scots to crush,
- God save the King.[1]
Nid oes fersiwn ddiffinadol o'r geiriau, ond ystyrir gan rai y fersiwn â thri phennill i fod yn fersiwn safonol y Deyrnas Unedig. Ymddangosodd y fersiwn hon yn Gentleman's Magazine 1745, ac mewn cyhoeddiadau megis The Book of English Songs: From the Sixteenth to the Nineteenth Century (1851),[2] National Hymns: How They are Written and how They are Not Written (1861),[3] Household Book of Poetry (1882),[4] a Hymns Ancient and Modern, revised version (1982).[5] Mae'r un fersiwn, ond heb yr ail bennill, yn ymddangos yn Scouting for boys (1908),[6] ac ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, "Monarchy Today" website.[7]
Ffynonellau
- ↑ Clark, Richard (1822). An Account of the National Anthem Entitled God Save the King!. London. tt. 8–9.
- ↑ Charles Mackay (1851). The Book of English Songs: From the Sixteenth to the Nineteenth Century, tud. 203
- ↑ Richard Grant White (1861). National Hymns: How They are Written and how They are Not Written. Rudd & Carleton, tud. p.42
- ↑ Charles Anderson Dana (1882). Household Book of Poetry, tud. 384
- ↑ Nodyn:Teitl=Hymns Ancient and Modern, Revised Version
- ↑ Robert Baden-Powell (1908). Scouting for Boys, tud. 341
- ↑ Monarchy Today website.