Nürnberg
Dinas yn nhalaith Bafaria yn yr Almaen yw Nürnberg, hefyd Nuremberg. Saif ar Afon Pegnitz a Chamlas Rhein-Main-Donaw, tua 170 milltir i'r gogledd o München. Hi yw'r ddinas fwyaf yn Franconia, gyda phoblogaeth o 500,132 yn 2006.
Math | dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Bavaria |
---|---|
Poblogaeth | 523,026 |
Pennaeth llywodraeth | Marcus König |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2, CET |
Gefeilldref/i | Kharkiv |
Nawddsant | Sebaldus |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Fetropolitan Nürnberg, Franconia, Bafaria |
Sir | Franconia Canol |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 186.45 km² |
Uwch y môr | 209 ±1 metr |
Gerllaw | Pegnitz, Camlas Rhine-Main-Danube |
Yn ffinio gyda | Fürth, Erlangen, Erlangen-Höchstadt, Nürnberger Land, Roth, Schwabach, Fürth, Oberasbach |
Cyfesurynnau | 49.4539°N 11.0775°E |
Cod post | 90402–90491 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | lord mayor of Nuremberg |
Pennaeth y Llywodraeth | Marcus König |
Tyfodd y ddinas yn gyflym rhwng 1050 a 1571, gan ei bod ar lwybrau masnach pwysig. Roedd rhai o sefydliadau pwysicaf yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn cyfarfod yno. Ystyrir hi yn prifddinas y Dadeni Almaenig yn y 15fed a'r 16g. Gwarchaewyd ar y ddinas yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a lleihaodd ei phwysigrwydd wedi'r rhyfel, hyd nes daeth yn ganolfan ddiwydiannol bwysig yn y 18g.
Dewisodd y Natsïaid Nürnberg fel y safle ar gyfer ralïau anferth rhwng 1927 a 1938. Wedi'r Ail Ryfel Byd, yma y cynhaliwyd Treialon Nuremberg, pan roddwyd llawer o brif arweinwyr y llywodraeth Natsïaidd ar eu prawf.
Deil y ddinas i fod yn ganolfan ddiwydiannol bwysig, ac ei ffair deganau ryngwladol yw'r fwyaf yn y byd.