Amser Haf Prydain
Amser Haf Prydain (a adnabyddir gan amlaf fel BST, o'r term Saesneg British Summer Time) yw'r gyfundrefn amser sy'n ychwanegu 1 awr at UTC/GMT yn y Deyrnas Unedig. Bwriad y drefn yw ymestyn oriau golau dydd i bobl sy'n gweithio oriau arferol. Cafodd y system ei chyflwyno gan Lloyd George yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i'w gwneud hi'n haws i weithwyr yn y ffatrïoedd arfau.
Enghraifft o'r canlynol | cylchfa amser, safon amser |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |