Amy Guy

cyn-enillydd Miss Cymru (2004) a Miss United Kingdom (2005)

Model, cyn-enillydd Miss Cymru (2004), Miss United Kingdom (2005) a seren y byd chwaraeon ydy Amy Guy (ganwyd 21 Rhagfyr 1983).[1][2] ac enillydd Gwobr Miss Sport yn Miss World 2004. Enillodd hefyd Miss United Kingdom (2005) ac aeth yn ei blaen i gynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth Miss International 2005. Mae hefyd wedi ymddangos ar y rhaglen deledu Gladiators (2008) fel Gladiator Siren.

Amy Guy
Ganwyd21 Rhagfyr 1983 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Nottingham Edit this on Wikidata
Galwedigaethmodel, ymgeisydd mewn cystadleuaeth modelu Edit this on Wikidata
Gwobr/auPlayboy Cyber Girl UK Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Cafodd ei magu yn Wrecsam ac aeth i Ysgol Rhiwabon, gerllaw ac yna i Goleg Iâl. Hi oedd pencampwr cenedlaethol Cymru am neidio cloddiau 100m a 300m pan oedd yn yr ysgol. Cafodd radd yn Prifysgol Nottingham, mewn pensaerniaeth.

Chwaraeon

golygu

Mae Amy wedi cynrychioli Cymru 5 gwaith mewn marchogaeth ceffyl a bu hi yn aelod o dîm Prydain hefyd. Mae wedi cystadlu mewn gemau pentathalon a rhedeg marathon mewn llefydd fel Asia, USA a gwledydd ewrop.

Cyfeiriadau

golygu
  1. BBC News – Amy's hopes on 'lucky frock'
  2. "Miss Wales promoted to Miss UK". News Wales. 12 January 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2001-04-11. Cyrchwyd 20 March 2008.

Dolennau allanol

golygu