An Uhelgoad
Mae An Uhelgoad (Ffrangeg: Huelgoat) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Berrien, Brennilis, La Feuillée, Locmaria-Berrien, Plouie, Poullaouen ac mae ganddi boblogaeth o tua 1,398 (1 Ionawr 2021).
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,398 |
Pennaeth llywodraeth | Benoît Michel |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 14.87 km² |
Uwch y môr | 92 metr, 267 metr |
Yn ffinio gyda | Berrien, Brenniliz, Ar Fouilhez, Lokmaria-Berrien, Plouie, Poullaouen |
Cyfesurynnau | 48.3644°N 3.7447°W |
Cod post | 29690 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Huelgoat |
Pennaeth y Llywodraeth | Benoît Michel |
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Ystyr yr enw ydy "uchel goed".
Poblogaeth
golyguLlefydd o ddiddordeb
golyguMae nifer o hynodion daearegol a cyn hanesyddol i'w gweld drwy ddilyn llwybrau yn, ac o amgylch, y pentref a'r goedwig. Ymhlith y rhain mae:
- Le Chaos de Rochers, Y Tryblith o Greigiau, yn gymysgedd o gannoedd o glogfeini mawr o dan lyn argae, i'r hwn y mae'r afon yn diflannu..
- La Roche Tremblante Y Graig sy'n Crynu, clogfaen 137-tunnell gerllaw, wedi ei golynnu mewn modd ei hysgwyd wrth wthio yn ei herbyn.
- Le Champignon, Y Madarch, craig fawr yn cydbwyso ar un llai.
- La Mare aux Fees, Pwll y tylwyth teg .
- La Mare aux Sangliers, Pwll y baedd gwyllt.
- Le Camp d'Artus, Gwersyll Arthur, bryngaer pentir môr yn seiliedig ar oppidum Galeg, gyda rhagfur llinol murus gallicus. Fe'i defnyddiwyd fel lloches gan y Galiaid Osisme yn erbyn y goresgyniad Rhufeinig ym 57 CC, ac yn ddiweddarach cafoddl llysenw yn cyfeirio at chwedl Arthuraidd. Cloddiwyd y safle gan Syr Mortimer Wheeler.
- La Grotte d'Artus, neu Ogof Arthur, cysgod naturiol a ffurfiwyd o dan do o greigiau caeth.
- Mae Ardd Goed Poërop yn ardd goed lleol gyda chasgliad, a gydnabyddir yn genedlaethol, o goed masarn, ymhlith casgliadau sylweddol arall.
-
Gersyll Arthur
-
Cynllun Gwersyll Arthur
-
Y Madarch
-
Y Tryblith o Greigiau
-
Ogof y diafol (rhan o'r tryblith)
-
Y Graig sy'n Crynu
-
Pwll y baedd gwyllt