Mae Oppidum (lluosog oppida) yn air Lladin yn golygu y prif dref mewn ardal weinyddol. Daw'r gair o'r Lladin cynharach ob-pedum, "mangre wedi ei hamgau". Cysylltir yr oppida yn gyffredinol â'r Celtiaid.

Oppidum
Mathmath Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfnod daearegolOes yr Haearn Edit this on Wikidata
Oppidum Bibracte yn Ffrainc.

Disgrifiodd Iŵl Cesar y trefi a welodd yng Ngâl fel oppida, ac mae'r term yn awr yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw dref o'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid yng nghanolbarth a gorllewin Ewrop. Tyfodd llawer o'r oppida o fryngeiri, ond nid oedd gan bob un amddiffynfeydd sylweddol.

Yr oppida oedd y sefydliadau cynharaf i'r gogledd o'r Alpau y gellir eu disgrifio fel trefi. Nododd Cesar fod gan lwythau Gâl fwy nag un oppidum yn eu tiriogaeth, ond fod rhai'n bwysicach nag eraill. Tyfodd llawer o'r oppida yn drefni Rhufeinig, ond symudwyd rhai ohonynt o ben bryn i'r gwastadedd gerllaw.

Ymhilth yr oppida mwyaf nodedig mae:

Gellir ystyried Traprain Law yn yr Alban yn oppidum neu yn fryngaer fawr.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Collis, John (1984) Oppida, earliest towns north of the Alps. Sheffield
  • Garcia, Dominique (2004) La Celtique Méditeranée: habitats et sociétés en Languedoc et en Provence, VIIIe - IIe siècles av. J.-C. chapter 4 La « civilisation des oppida » : dynamique et chronologie. Paris, Editions Errance. ISBN 2-87772-286-4