Harri IV, brenin Lloegr
Harri IV neu Henry Bolingbroke (3 Ebrill 1367 – 20 Mawrth 1413) oedd brenin Lloegr o 30 Medi 1399 hyd ei farwolaeth.
Harri IV, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | Ebrill 1367 Castell Bolingbroke |
Bu farw | 20 Mawrth 1413 Westminster |
Swydd | teyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon |
Tad | John o Gaunt |
Mam | Blanche o Gaerhirfryn |
Priod | Mary de Bohun, Juana o Navarra |
Plant | Harri V, brenin Lloegr, Jan Lancaster, Humphrey o Gaerhir, Dug Caerloyw 1af, Blanche o Loegr, Philippa o Loegr, Edward Plantagenet, Thomas o Gaerhirfryn |
Llinach | Lancastriaid, Llinach y Plantagenet |
llofnod | |
Harri oedd mab John o Gaunt a'i wraig Blanche o Lancaster. Cafodd ei eni yng Nghastell Bolingbroke. Daeth i rym yn y flwyddyn 1399 wedi iddo lwyddo i orchfygu'r brenin blaenorol, Rhisiart II, a bu'n teyrnasu yn Lloegr adeg gwrthryfel Owain Glyn Dŵr.
Priododd Mary de Bohun ym 1380. Bu farw Mary ym 1394.
Ar ôl dod yn frenin, priododd Harri Juana o Navarra, gweddw dug Llydaw. Doedd dim blant o'r briodas hon.
Shakespeare
golyguYsgrifennodd y dramodydd Seisnig enwog William Shakespeare gyfres o dair drama amdano, sef Richard II, sy'n croniclo gwrthryfel Bolingbroke yn erbyn Rhisiart II, Henry IV, Rhan I sy'n croniclo gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn erbyn Bolingbroke Henry IV, Rhan II sy'n croniclo marwolaeth Bolingbroke a dyfodiad ei fab Harri V i'r orsedd. Ystyrir y dramâu yn rhai o'r enghreifftiau gorau o ddramâu hanes yn y traddodiad Saesneg, ac mae Henry IV Rhan I yn cael ei gweld fel un o ddramâu gorau Shakespeare.
Rhagflaenydd: Rhisiart II |
Brenin Loegr 30 Medi 1399 – 20 Mawrth 1413 |
Olynydd: Harri V |