Anarawd ap Gruffudd
Roedd Anarawd ap Gruffudd (bu farw 1143) yn dywysog Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.
Anarawd ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | c. 1106 |
Bu farw | 1143 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn, pendefig |
Swydd | tywysog |
Tad | Gruffudd ap Rhys |
Plant | Einion ab Anarawd |
Anarawd oedd yr hynaf o feibion Gruffudd ap Rhys. Ar farwolaeth gynamserol ei dad yn 1137 daeth Anarawd yn dywysog Deheubarth. Yn 1138 ymunodd ef a'i frawd Cadell ap Gruffudd gyda thywysog Gwynedd, Owain Gwynedd a'i frawd Cadwaladr ap Gruffudd i ymosod ar Gastell Aberteifi, oedd yn nwylo'r Normaniaid. Cynorthwywyd yr ymgyrch gan lynges oedd wedi ei chyfrannu gan y Llychlynwyr, ond wedi dod i gytundeb rhoddwyd y gorau i'r gwarchae ar y castell.
Yn 1140 cefnogodd Anarawd Owain Gwynedd eto, y tro hwn mewn dadl ag Archesgob Caergaint ynglŷn â phenodiad Esgob Bangor. Fodd bynnag yn 1143 lladdwyd Anarawd trwy frad gan wŷr Cadwaladr, brawd Owain. Roedd amheuaeth gref fod gan Cadwaladr ei hun ran yn y cynllwyn. Digiodd hyn Owain yn fawr, gan fod Anarawd yn cydweithio'n glos ag Owain ac ar fin priodi ei ferch. Gyrrodd Owain ei fab, Hywel ab Owain Gwynedd, i ddwyn tiroedd Cadwaladr yng Ngheredigion fel cosb.
Dilynwyd Anarawd ar orsedd Deheubarth gan ei frawd Cadell. Lladdwyd ei fab, Einion ab Anarawd, gan ei was ei hun yn 1163, i bob golwg ar orchymyn Iarll Roger o Henffordd.
Llyfryddiaeth
golyguJohn Edward Lloyd, A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (Llundain, 1911)
O'i flaen : Gruffudd ap Rhys |
Teyrnoedd Deheubarth Anarawd ap Gruffudd |
Olynydd : Cadell ap Gruffudd |