Hywel ab Owain Gwynedd
Tywysog a bardd Cymreig oedd Hywel ab Owain Gwynedd (bu farw 1170).[1] Roedd yn fab gordderch i Owain Gwynedd, tywysog Gwynedd, a Gwyddeles o'r enw Pyfog, ac fe gyfeirir ato weithiau fel Hywel ap Gwyddeles. Roedd Gwerful Goch yn nith iddo trwy ei frawd Cynan.
Hywel ab Owain Gwynedd | |
---|---|
Ganwyd | 12 g ![]() Teyrnas Gwynedd ![]() |
Bu farw | 1170 ![]() Pentraeth ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Tad | Owain Gwynedd ![]() |

Bywgraffiad Golygu
Yn 1143 roedd gan Cadwaladr, brawd Owain Gwynedd, ran yn llofruddiaeth Anarawd ap Gruffudd o Ddeheubarth. Ymateb Owain oedd gyrru Hywel i gymeryd ei diroedd yng ngogledd Ceredigion oddi ar ei ewythr. Gwnaeth Hywel hynny, gan oresgyn a llosgi castell Aberystwyth. Yn 1147 gyrrwyd Cadwaladr o Feirionnydd gan Hywel a'i frawd Cynan, gan oresgyn a llosgi ei gastell yng Nghynfael.[2]
Yn 1159 ymgynghreiriodd Hywel â rhai o arglwyddi Normanaidd y de yn erbyn yr Arglwydd Rhys.[2]
Ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, bu brwydro rhwng ei feibion am arglwyddiaeth Gwynedd. Gorfodwyd Hywel i ffoi i Iwerddon gan ei hanner-brodyr Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri. Dychwelodd yr un flwyddyn gyda byddin o Iwerddon, ond trechwyd ef a'i ladd gan lu Dafydd a Rhodri mewn brwydr ger Pentraeth ym Môn.[2]
Cerddi Golygu
Roedd Hywel yn fardd galluog, ac mae wyth o'i gerddi wedi eu cadw. Fe'i cofir yn bennaf fel bardd serch a natur. Yn wahanol i eraill o Feirdd y Tywysogion nid oedd yn fardd llys ac felly roedd yn mwynhau'r rhyddid i ganu ar bynciau amrywiol mewn cywair mwy personol.[1]
Yr enwocaf o'i gerddi, mae'n debyg, yw 'Gorhoffedd Hywel ab Owain Gwynedd' lle mae'n canu clodydd Gwynedd, ei brydferthwch naturiol a phrydferthwch ei wragedd. Canodd yn ogystal bump cerdd serch i ferched anhysbys; cerddi sydd yn rhagflaenu'r canu serch telynegol a welir yng ngwaith y cywyddwyr, fel Dafydd ap Gwilym, yn y 14g. Mae'n bosibl fod barddoniaeth Ffrangeg y cyfnod, yn arbennig gwaith y Trwbadwriaid, wedi dylanwadu ar Hywel. Mae ganddo hefyd ddwy gerdd arwrol sy'n dathlu buddugoliaethau Gwynedd yn erbyn lluoedd brenin Lloegr (Harri II efallai).[1]
Llyfryddiaeth Golygu
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cefndir hanesyddol Golygu
- R.R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991)
Gwaith barddonol Golygu
- Kathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994). Y golygiad safonol o destunau barddonol Hywel, yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion.