Mae Anarchopanda yn gymeriad symbolaidd sy'n cymryd rhan ym mhrotestiadau myfyrwyr Québec 2012, gan annog dysgu am ddim. Panda sy'n mynychu protestiadau er mwyn cofleidio protestwyr a heddweision ydyw.[1]

Anarchopanda
ym mhrotest 22 Mai 2012 ym Montréal

Hanes a meddwl

golygu

Athro athroniaeth mewn coleg (neu Cégep) sy'n hoffi darllen yr Hynafwyr fel Platon, Aristoteles a Phlotinos,[2] a wisgodd gyntaf y wisg panda yn gyhoeddus ddydd 8 Mai 2012, ac ers hynny mae o wedi mynd i lawer o brotestiadau.[3]

Mae'r enw Anarchopanda, sy'n cefnogi anarcho-heddychaeth (Saesneg: anarchopacifism),[3] yn gosod ei hun rhwng y protestwyr a'r heddweision pan mae'n barnu fod yr heddlu'n actio'n rhy dreisgar, ond "heb fradychu brwydr y myfyrwyr ychwaith."[cyf. 1] Wrth siarad gyda Le Devoir, esboniodd ei fod yn gwrthwynebu trais yr heddweision.[2]

Cyn iddo wisgo'r gwisg panda am y tro cyntaf (a brynnodd ar wefan Tsieineaidd eBay), mynychodd tua saith-deg protest yn Québec 2012, er mwyn amddiffyn protestwyr rhag heddweision. Cyn y wisg panda, gwisgodd wisg o groen dynol, ond peidiodd a gwneud hynny gan ei fod yn "anymarferol"[cyf. 2] a "thadofalaethol" ("Fi, oedolyn, ydy'ch amddiffynnwr chi, fy mhlant").[cyf. 3][2] Felly stopiodd mynd i'r brotestiadau yn rhith dyn a dechrau gwisgo gwisg panda: "I amgylchiadau rhyfedd, ateb rhyfedd" meddai.[cyf. 4]

Er fod ei wisg, sy'n gorchuddio'i wyneb, yn anghyfreithlon ym Montréal, cafodd ei arestio dim ond unwaith, a hynny pan gafodd y bws roedd yn teithio ynddo ei stopio gan yr heddlu.[3] Mae Anarchopanda gan mwyaf yn cyfranogi ym mhrotestiadau Montréal, ond ar 24 Mai 2012 aeth i Québec er mwyn ymdeithio efo'r protestwyr, wedi'i ysbrydoli gan arestio 176 o bobl y noson cynt.[4]

Gweler hefyd

golygu

Dyfyniadau wedi'u Cymreigio

golygu
  1. "sans trahir leur lutte ni détourner leurs discours"
  2. "impraticable dans le feu de l'action"
  3. "Et on peut lire un paternalisme dans ce geste : moi, adulte, je vous protège, vous, enfants."
  4. "À circonstances bizarres, réponse bizarre."

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu