Anders Behring Breivik
Dyn Norwyaidd yw Anders Behring Breivik (ganwyd 13 Chwefror 1979) oedd yn gyfrifol am ladd 77 o bobl mewn ymosodiadau yn Norwy ar 22 Gorffennaf 2011, trwy danio bom yn y brifddinas Oslo gan ladd wyth o bobl, a saethu 69 yn farw ar ynys o'r enw Utøya. Cafwyd yn euog o derfysgaeth a llofruddiaeth ragfwriadol ym mis Awst 2012 a dedfrydwyd i garchar am 21 mlynedd, y cyfnod hiraf posib dan gyfraith Norwy, er y gall estyn ei ddedfryd os yw'n cael ei ystyried yn fygythiad i bobl eraill.[1][2]
Anders Behring Breivik | |
---|---|
![]() | |
Ynganiad |
No-Anders Behring Breivik.ogg, No-Fjotolf Hansen.ogg ![]() |
Ffugenw |
Andrew Berwick, Sigurd Jorsalfare, Sigurd the Crusader ![]() |
Ganwyd |
Anders Behring Breivik ![]() 13 Chwefror 1979 ![]() Oslo ![]() |
Man preswyl |
Oslo ![]() |
Dinasyddiaeth |
Norwy ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
masnachwr, gwerthwr, entrepreneur, llofrudd, terfysgwr, Damcanydd cydgynllwyniol ![]() |
Adnabyddus am |
2083 – Datganiad Annibyniaeth Ewrop, Marchogion y Deml 2083 – Rhagflas o Ffilm, Murder and psychosis: Neuropsychological profiles of homicide offenders with schizophrenia. ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Progress Party ![]() |
Tad |
Jens Breivik ![]() |
Mam |
Wenche Behring Breivik ![]() |
Honnodd Breivik yr oedd yr ymosodiadau yn ei fodd "creulon ond angenrheidiol" o frwydro'n erbyn amlddiwyllianedd ac Islameiddio yn Ewrop.[3]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Anders Behring Breivik: Norway court finds him sane. BBC (24 Awst 2012). Adalwyd ar 17 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Adam, William Lee (24 Awst 2012). Norway Killer Declared Sane, Sentenced to 21 Years in Prison. TIME. Adalwyd ar 17 Mai 2013.
- ↑ Anders Breivik ‘ddim yn wallgof’ medd llys. Golwg360 (24 Awst 2012). Adalwyd ar 17 Mai 2013.