André Derain
Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon, diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 5 Ionawr 2025, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwy'r cyngor hwn? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Artist o Ffrainc, arlunydd, cerflunydd a chyd-sylfaenydd symudiad Fauvism gyda Henri Matisse oedd André Derain (10 Mehefin 1880 - 8 Medi 1954).[1]
André Derain | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mehefin 1880 Chatou |
Bu farw | 8 Medi 1954 o damwain cerbyd Garches |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, coreograffydd, cerflunydd, engrafwr, dylunydd gwisgoedd, cynllunydd llwyfan, darlunydd, dylunydd gemwaith, ffotograffydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, cynllunydd, drafftsmon |
Adnabyddus am | Enfant courant sur la plage, Pont de Charing Cross |
Arddull | celf tirlun, portread, bywyd llonydd, peintio lluniau anifeiliaid, celf genre, peintio hanesyddol, noethlun, paentiadau crefyddol |
Prif ddylanwad | Georges Seurat, Paul Gauguin, Maurice de Vlaminck |
Mudiad | Fauvisme, Ciwbiaeth |
Tad | Louis Derain |
Priod | Alice Derain |
Partner | Raymonde Knaublich |
Plant | André-Charlemagne Knaublich |
Gwefan | https://www.andrederain.fr/ |
llofnod | |
Blynyddoedd cynnar
golyguYn 1880, cafodd Derain ei eni yn Chatou, Yvelines, Île-de-France, dim yn bell o'r brif ddinas Paris. Yn ôl pob sôn, cafodd Derain yr ysbrydoliaeth i baentio ar ôl cwrdd â Vlaminck neu Matisse. Er hyn, dechreuodd ef ei daith peintio yn 1895 ar ben ei hun. Wnaeth Derain cwrdd â Matisse yn nosbarthiadau peintio yn 1898, dan arweiniad Eugène Carrière, wrth astudio i fod yn beiriannydd at Académie Camillo [2]. Yn 1990, rhannod Derain stiwdio â Maurice de Vlaminck a dechreuon nhw beintio golygfeydd o'r gymdogaeth ond cafodd hyn ei ymyrryd o ganlyniad i Derain ymuno gwasanaethau'r fyddin at Commercy o Fedi 1901 i 1904 [3]. Yn dilyn ei rhyddhad o wasanaeth, perswadiodd Matisse rhieni Derain i'w adael i ddilyn gyrfa yn seiliedig ar gelf yn lle peiriannydd; o ganlyniad, mynychodd Académie Julian.[4]
Ffauviaeth
golyguGweithiodd Derain a Matise gyda'i gilydd trwy gydol yr haf yn 1905 ym mhentref Mediteranaidd Collioure, dyma'r lleoliad paentiodd Derain Mountains at Collioure .[5] Blynyddoedd ar ôl hyn oedd dechreuad i'r symudiad Ffauviaeth [6]. Disgrifiodd critig Louis Vauxcelles gwaith Derain a Matisse, a oedd yn cael eu harddangos yn y Salon d'Automne, fel les Fauves, neu'r "wild beasts", am fod eu celf yn llawn lliwiau llachar ac annaturiol. Ym Mawrth 1906, cafodd Derain ei ddanfon i Lundain gan ddeliwr celf Ambroise Vollard i gynhyrchu cyfres o baentiadau sy'n canolbwyntio ar y ddinas. Bu Derain yn cynhyrchu 30 paentiad, 29 yn dal i fod ar gael, yn ystod ei amser yn Llundain. Yn gwbl wahanol i Whistler neu Monet, roedd ei olygfeydd, amrywiad o'r Thames a Tower Bridge, yn llawn cyfansoddiadau a lliwiau amlwg. Dywedodd critig celf T. G Rosenthal: "Nid ers Monet oes rhywun wedi dangod Llundain mor ffres a chadw'n Saesneg. Mae rhan fwyaf o'i olygfeydd o'r Thames yn defnyddio'r dechneg Pointillist, llawer o ddotiau, yn fwy nag unrhyw beth mae'n wahaniad o liwiau sef Divisionism. Mae'n effeithiol i gyfleu darniad lliw yn symudiad y dŵr dan olau'r haul."[7]
Yn 1907, prynodd Daniel-Henry Kahnweiler stiwdio gyfan Derain, yn caniatáu sefydlogrwydd ariannol iddo. Arbrofodd â cherfluniau cerrig a symudodd i Fontmartre i fod yn agos i'w ffrind, Pablo Picasso, ac artistiaid eraill. Bu Fernande Olivier, meistres i Picasso ar y pryd, yn disgrifio Derain[8] fel:
Slim a cain, gyda lliw bywiog a gwallt du wedi'i enameiddio. Gyda chic Saesneg, braidd yn drawiadol. Gwasgodau ffansi, clymau mewn lliwiau crai, coch a gwyrdd. Gyda phibell yn ei enau ar bob adeg, phlegmatic, gwatwar, oer, dadleuwr.
Gan ddangos dylanwad Cubism a Paul Cézanne, newidiodd ei balet i donau tawel a llai llachar.[9] Yn ôl Gertrude Stein, cafodd Derain yr ysbrydoliaeth o gerfluniau Affricanaidd amser cyn Picasso [10]. Am lyfr cyntaf Guillaume Apollinaire, L'enchanteur pourrissant yn 1909, arddangosodd Derain torluniau pren yn arddull Primitivism.
Arddangosodd ei waith yn 1910 yn Neue Künstlervereinigung[11], Munich, yn olyniaeth Der Blaue Reiter[12] yn 1912 ac yn semenaidd Armory Show yn Efrog Newydd. Yn ychwanegol, darluniodd casgliad o gerddi gan Max Jacob yn 1912.
Tuag at glasuriaeth newydd
golyguAdlewyrchodd gwaith Derain ei astudiaeth o'r Hen Feistriaid ar yr adeg hon. Roedd yna newid i'r lliw a lleihad llym i'r ffurfiad; mae'r blynyddoedd rhwng 1911 ac 1914 yn cyfeirio at ei amser gothig. yn 1914, cafodd ei ddanfon i wasanaethu'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 1919, cafodd ei rhyddhau a'r unig waith oedd yn bosib iddo gwblhau oedd yn 1916, cyfres o ddarluniau am lyfr cyntaf André Breton, Mont de Piete.
Ar ôl y rhyfel, cafodd Derain ei gymeradwyo am arwain adnewyddiad clasuriaeth. Bu Derain yn cael ei edmygu am gadw at draddodiadau gan adael ei flynyddoedd Fauviaeth tu ôl.[13] Yn 1919, dyluniodd y bale La Boutique fantasque am Diaghilev, arweinydd y Ballets Russes.[14] Llwyddiant oedd hyn ac roedd nifer o ddyluniadau dawnsio bale yn dilyn.
Yn 1928, cafodd Derain ei wobrwyo am ei fywyd llonydd, Dead Game, a dechreuodd i arddangos ei waith tramor - Llundain, Berlin, Frankfurt, Düsseldorf, Dinas Efrog Newydd a Cincinnati, Ohio.[8]
Bu Derain yn byw ym Mharis yn ystod meddiannaeth yr Almaenwyr dros Ffrainc, yn yr Ail Ryfel Byd. Bu'r Almaenwyr yn gystal â Derain oherwydd ei fod yn cynrychioli diwylliant bri o Ffrainc. Derbyniodd Derain gwahoddiad i ymweld â'r Almaen yn swyddogol yn 1941, teithiodd gydag artistiaid o Ffrainc eraill i Ferlin i arddangosfa Natsïaidd Arno Breker, artist swyddogol.[9] Roedd presenoldeb Derain yn yr Almaen yn achosi colled o gyn cefnogwyr ar ôl y Rhyddhad o ganlyniad iddo'n cael ei ddefnyddio am bropaganda'r Natsïaid.[15]
Blwyddyn cyn ei farwolaeth yn 1954, dioddefodd o heintiad y llygaid a ni wellodd o hyn. Bu farw yn 1954 pan gafodd ei daro i lawr gan gerbyd yn Garches, Hauts-de-Seine, Île-de-France.[16]
Testun prif arddangosfa Courtauld Institute, 27ain o Hydref 2005 i 22ain o Ionawr 2006, oedd paentiadau Derain o Lundain .[17]
Casgliadau cyhoeddus
golyguCasgliadau cyhoeddus sy'n cadw gwaith gan André Derain:
- Amgueddfa Celfyddydau Cain, Ghent, Gent
- Museum de Fundatie, Zwolle, yr Iseldiroedd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sabine, Rewald. "Fauvism". from Timeline of Art History. New York: The Metropolitan Museum of Art, 2000–. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 2007-12-17.
- ↑ Cowling and Mundy 1990, p.92
- ↑ Diehl 1977 p.14
- ↑ "International Painting and Sculpture - Le Cavalier au cheval blanc". National Gallery of Australia. Cyrchwyd 2007-12-17.
- ↑ "Mountains at Collioure by André Derain at National Gallery of Art". Rolfes. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Gil Blas / dir. A. Dumont". Gallica (yn Saesneg). 1905-10-17. Cyrchwyd 2020-06-27.
- ↑ Tom Rosenthal, reviewing Derain's London paintings on show at the Courtauld Gallery, The Independent 4 Rhagfyr 2005
- ↑ 8.0 8.1 Clement 1994, p. 396
- ↑ 9.0 9.1 "Works on View: André Derain". Guggenheim Hermitage Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ionawr 2008. Cyrchwyd 2007-12-18.
- ↑ Stein, Gertrude (Tachwedd 2000). Stein, The Autobiography of Alice B. Toklas. ISBN 9780679641957.
- ↑ Hamilton 1993, p. 207
- ↑ Sotriffer 1972, p. 59
- ↑ Cowling and Mundy 1990, pp. 92–93
- ↑ "Australia Dancing leaps into Trove". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-08.CS1 maint: unfit url (link)
- ↑ Dorléac, Laurence Bertrand (2008). Art of the Defeat: France 1940-1944. Los Angeles: Getty Research Institute. tt. 83–87. ISBN 978-0-89236-891-4. Cyrchwyd 14 Chwefror 2012.
- ↑ "André Derain Biography". Namen der Kunst. Art Directory GmbH. Cyrchwyd 2008-01-03.
- ↑ Brettell, Richard R., Paul Hayes Tucker, and Natalie Henderson Lee (2009). The Robert Lehman Collection. III, III. New York, N.Y.: Metropolitan Museum of Art in association with Princeton University Press. p. 253. ISBN 9781588393494.
Darllen pellach
golygu- Clement, Russell (1994). Les Fauves: Llyfr Ffynonellau . Gwasg Greenwood.ISBN 0-313-28333-8ISBN 0-313-28333-8.
- Cowling, Elizabeth; Mundy, Jennifer (1990). Ar Dir Clasurol: Picasso, Léger, de Chirico a'r Clasuriaeth Newydd 1910–1930 . Llundain: Oriel Tate.ISBN 1-85437-043-XISBN 1-85437-043-X
- Diehl, Gaston (1977). Derain . Cyhoeddwyr y Goron, Inc.ISBN 0517037203 .
- Hamilton, George Heard (1993). Peintio a Cherflunio yn Ewrop, 1880–1940 . Gwasg Prifysgol Iâl.ISBN 0300056494ISBN 0300056494.
- Sotriffer, Kristian (1972). Mynegiadaeth a Ffauviaeth . McGraw-Hill.OCLC 1149407OCLC 1149407.
Dolenni allanol
golygu- André Derain yn yr Oriel Gelf Genedlaethol
- Gweithiau gan André Derain (parth cyhoeddus yng Nghanada)
- Catalogau arddangosfa André Derain
- Gelett Burgess, "The Wild Men of Paris, Matisse, Picasso a Les Fauves", 1910, Cofnod Pensaernïol
- André Derain, Amgueddfeydd ac Orielau Celf Gyhoeddus Ledled y Byd, Artcyclopedia