André Greipel
Seiclwr proffesiynol o'r Almaen ydy André Greipel (ganed 16 Gorffennaf 1982), sy'n arbennigo mewn rasio ffordd, fel sbrintiwr. Ganed yn Rostock, Dwyrain yr Almaen.
Mae'n byw yn Hürth, ger Cwlen yn yr Almaen. Wedi iddo ennill y Tour Down Under yn 2008, rhoddwyd iddo'r llysenw "Gorilla" gan amryw yn y cyfryngau.
Gyrfa broffesiynol
golyguYn 2008, enillodd gymal Grand Tour am y tro cyntaf yn y Giro d'Italia a'i brif tour cyntaf, y Tour Down Under.
Cystadlodd Greipel yn Vuelta a España 2009 fel prif sbrintiwr tîm Columbia – HTC, gan gymryd mantais o'r cymalau gwastad a thîm arwain Columbia, enillodd gymalau 4, 5, 16, a 21 mewn sbrintiau grŵp. Enillodd hefyd y gyrs werdd glodfawr am y dosbarthiad bwyntiau. Daeth Greipel a thymor 2009 i ben gyda 20 buddugoliaeth, yn ail o ran y nifer o fuddugoliaethau, i'w gyd aelod tîm Mark Cavendish.[1]
Yn 2010 enillodd ei ail gymal o'r Giro d'Italia ac enillodd y Tour Down Under am yr ail waith.
Yn 2011, wedi symud i Omega Pharma-Lotto, cafodd ei fuddugoliaeth cyntaf yn y Tour de France yng nghymal 10, gan guro ei brif wrthwynebydd a'i gyn cyd-aelod tîm, Mark Cavendish.
2012
golyguYn Tour de France 2012, roedd Greipel a'i îm Lotto-Belisol yn llawn gobaith i gipio cymalau. Bu bron i hyn ddigwydd cyn gynhared a chymal 2 lle curwyd gan Mark Cavendish, er iddo gyfaddef y bu ei drên arwain yn berffaith.[2] Cymal 4 a orffennod yn Rouen oedd y cymal nesaf â sbrint grŵp, a bu damawain ychydig cyn 3 cilomedr i fynd, a gynhwysodd Cavendish ymysg eraill. Osgodd Greipel y ddamwain a churo Alessandro Petacchi a Tom Veelers i gipio'r cymal.[3] Ailadroddodd Greipel ei fuddugoliaeth y diwrnod canlynol yng nghymal 5.[4]
Canlyniadau
golygu- 2001
- 2il Giessen
- 2002
- 3ydd Augsburg
- 2003
- 1af GP Waregem Odan 23
- 1af Thüringen-Rundfahrt Odan 23
- 1af Berliner Rundfahrt Odan 23
- 2004
- GP Tell
- 1af Prologue
- 1af Cymal 4b
- 1af Cymal 3 Tour du Loir-Et-Cher
- 1af Thüringen-Rundfahrt Odan 23
- 3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Cyclo-Cross Odan 23
- 2005
- 1af Cymal 6 Post Danmark Rundt
- 1af Gladbeck
- 1af Stadtlohn
- 3ydd Braunschweig
- 2006
- Rheinland-Pfalz Rundfahrt
- 1af Cymal 1
- 1af Cymal 4
- Cologne Classic
- 1af Cymal 1
- 1af Cymal 2
- 3ydd Sinzig
- 2007
- Sachsen Tour
- 1af Cymal 1
- 1af Cymal 2
- 2008
- 1af Down Under Classic
- 1af Dosbarthiad cyffredinol, Tour Down Under
- 1af Cymal 17 Giro d'Italia
- 1af Cymal 4 Österreich Rundfahrt
- 1af Cymal 4 Deutschland Tour
- 1af Münsterland Giro
- 2009
- Vuelta a España
- Bayern-Rundfahrt
- 1af Cymal 1
- 1af Cymal 3
- 1af Cymal 5
- Ster Elektrotoer
- 1af Cymal 2
- 1af Cymal 3
- 1af Cymal 5
- Österreich Rundfahrt
- 1af Cymal 1
- 1af Cymal 6
- 1af Cymal 8
- 1af Paris–Bourges
- 1af Cymal 7 Tour de Pologne
- 1af Cymal 1 Tour Down Under
- 1af Cymal 6 Four Days of Dunkirk
- 1af Neuseen Classics
- 1af Philadelphia International Championship
- 1af Cymal 1 Sachsen Tour
- 2010
- 1af Dosbarthiad cyffredinol Tour Down Under
- Tour of Turkey
- Tour of Britain
- 1af Cymal 1
- 1af Cymal 6
- 1af Cymal 8
- Österreich Rundfahrt
- Tour de Pologne
- 1af Cymal 2
- 1af Cymal 7
- Eneco Tour
- 1af Cymal 2
- 1af Cymal 6
- Volta ao Algarve
- 1af Cymal 18 Giro d'Italia
- 1af Cymal 5 Vuelta a Mallorca
- 3ydd Vattenfall Cyclassics
- 2011
- Tour of Belgium
- Eneco Tour
- 1af Cymal 1
- 1af Cymal 2
- 1af Cymal 10 Tour de France
- 1af Cymal 4 Volta ao Algarve
- 1af Cymal 1 Three Days of De Panne
- 1af Cymal 6 Tour of Turkey
- 3ydd Kuurne–Brussels–Kuurne
- 3ydd Pencampwriaethau Rasio Ffordd y Byd, UCI
- 4ydd Gent-Wevelgem
- 2012
- 1af Cancer Council Helpline Classic
- 1af ProRace Berlin
- Ronde van België
- Tour Down Under
- 1af Cymal 1
- 1af Cymal 3
- 1af Cymal 6
- Tour de Luxembourg
- Taith Oman
- 1af Cymal 1
- 1af Cymal 4
- 1af Cymal 2 Taith Twrci
- 1af Cymal 2 Ster ZLM Toer
- 1af Cymal 4 Tour de France
- 1af Cymal 5 Tour de France
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cycling Quotient. Cqranking.com (2009). Adalwyd ar 1 Mehefin 2012.
- ↑ "Tour de France: Greipel pledges to try again after near miss on stage two", VeloNation Press, VeloNation, 3 Gorffennaf 2012.
- ↑ Daniel Benson. "Greipel wins Tour de France stage in Rouen", Cycling News, Future Publishing Limited, 4 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Greipel doubles up on Tour de France stage 5", Future Publishing Limited, 5 Gorffennaf 2012.