Tour de France 2012
Tour de France 2012 oedd 99fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 30 Mehefin 2012 gyda chymal cyntaf yn Liège, Gwlad Belg a gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 22 Gorffennaf. Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.
Enghraifft o'r canlynol | Tour de France |
---|---|
Math | 2.UWT |
Rhan o | UCI World Tour 2012 |
Dechreuwyd | 30 Mehefin 2012 |
Daeth i ben | 22 Gorffennaf 2012 |
Rhagflaenwyd gan | Tour de France 2011 |
Olynwyd gan | 2013 Tour de France |
Yn cynnwys | 2012 Tour de France, Prologue, 2012 Tour de France, Stage 1, 2012 Tour de France, Stage 2, 2012 Tour de France, Stage 3, 2012 Tour de France, Stage 4, 2012 Tour de France, Stage 5, 2012 Tour de France, Stage 6, 2012 Tour de France, Stage 7, 2012 Tour de France, Stage 8, 2012 Tour de France, Stage 9, 2012 Tour de France, Stage 10, 2012 Tour de France, Stage 11, 2012 Tour de France, Stage 12, 2012 Tour de France, Stage 13, 2012 Tour de France, Stage 14, 2012 Tour de France, Stage 15, 2012 Tour de France, Stage 16, 2012 Tour de France, Stage 17, 2012 Tour de France, Stage 18, 2012 Tour de France, Stage 19, 2012 Tour de France, Stage 20 |
Gwefan | http://www.letour.fr/indexTDF_us.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd y llwybr ei gyhoeddi ar gam gan yr ASO ar eu gwefan ar 10 Hydref 2011.[1] Cadarnhaodd yr ASO y llwybr yn y cyflwyniad swyddogol ar 18 Hydref.[2]
Roedd y llwybr yn cynnwys 101.1 km a gwblhawyd ar ffurf treial amser[3] ac ond tri chymal yn gorffen i fyny allt: La Planche des Belles Filles (cymal 7), La Toussuire - Les Sybelles (cymal 11) a Peyragudes (cymal 17).
Ymwelwyd â'r Col du Grand Colombier am y tro cyntaf yn hanes y Tour de France. Cafodd yr esgyniad ei ddefnyddio'n gynharach yn y Critérium du Dauphiné, Tour de l'Avenir ac yn gyson yn y Tour de l'Ain. Esgynnwyd hefyd mynyddoedd cyfarwydd y Col de la Madeleine a'r Col de la Croix de Fer (y ddwy yn Hors catégorie) wrth i'r ras deithio drwy'r Alpau. Ar y daith drwy'r Pyreneau, esgynnwyd y Col de Tourmalet, Col d'Aubisque, Col d'Aspin ar Col de Peyresourde; a phob un o'r pedwar yn ystod cymal 16. Roedd cyfanswm o 25 esgyniad yng nghategori 1, 2, a HC yn cyfrif ar gyfer pwyntiau yng nghystadleuaeth brenin y mynyddoedd.
Timau
golyguRoedd gan pob un o 18 o dimau ProTeam yr UCI yr hawl, ac roedd yn ofynnol iddynt, gymryd rhan yn y ras. Cafodd pedwar tîm UCI Professional Continental eu gwahodd yn ogystal, un Iseldiraidd a tair Ffrengig.[4]
- Ag2r-La Mondiale
- Cofidis†
- Lampre-ISD
- Orica-GreenEDGE
- Saur-Sojasun†
- Team Sky
- Argos-Shimano†
- Euskaltel-Euskadi
- Liquigas-Cannondale
- Omega Pharma-Quick Step
- Team Europcar†
- Vacansoleil-DCM
- Astana
- FDJ-BigMat
- Lotto-Belisol
- Rabobank
- Team Katusha
- BMC Racing Team
- Garmin-Sharp
- Movistar Team
- RadioShack-Nissan
- Team Saxo Bank-Tinkoff Bank
†: Timau proffesiynol cyfandirol a wahoddwyd
Y ffefrynnau cyn y ras
golyguRoedd Cadel Evans am amddiffyn ei deitl fel enillydd y Tour y flwyddyn gynt. Nid oedd Andy Schleck, enillydd 2010 (wedi i Alberto Contador gael ei ddi-gymhwyso am ddefnyddio cyffuriau), a ddaeth yn ail yn 2011, yn gallu cychwyn y Tour wedi iddo dorri ei asgwrn sacraidd yn ei belfis yn y Critérium du Dauphiné.[5] Ni fyddai cyn enillydd 2007, Alberto Contador, a ddi-gymhwyswyd wedi 2010, yn cymryd rhan oherwydd ei fod yn dal wedi ei wahardd rhag cystadlu ar y pryd.
Roedd cyn-enillwyr eraill Grand Tour a gychwynnodd y Tour de France yn 2012 yn cynnwys: Denis Menchov (2009 Giro d'Italia a 2005 a Vuelta a España 2007), Alexander Vinokourov (Vuelta a Espana 2006), Alejandro Valverde (Vuelta a España 2009), Vincenzo Nibali (Vuelta a España 2010), Juan José Cobo (Vuelta a España 2011), Ivan Basso (Giro d'Italia 2006 a Giro d'Italia 2010), Michele Scarponi (Giro d'Italia 2011) a Ryder Hesjedal (Giro d'Italia 2012).[6][7][8]
Yn ôl nifer y feirniaid, y prif ffefryn oedd y reidiwr Prydeinig Bradley Wiggins.[9][10] Roedd Wiggins, a orffennodd yn bedwerydd yn 2009, ac yn drydydd yn Vuelta a España 2011, wedi dangos ei gyflwr yn dda drwy gydol 2012, gan ennill rasus cymalog nodweddiadol Paris-Nice, Tour de Romandie a'r Critérium du Dauphiné. Cysidrwyd y cyn-reidiwr trac i fod yn un o dreialwyr amser gorau'r peleton, ac roedd y cyfanswm uchel o gilomedrau ar ffurf treialon amser yn Tour 2012 yn fantais iddo.
Canlyniad
golyguEnillodd Bradley Wiggins (Team Sky) ddosbarthiad cyffredinol y ras, 3' 21" yn glir o'i gyd-aelod tîm Chris Froome. Daeth y ddau yn Brydeinwyr cyntaf erioed i orffen yn nhri safle uchaf y ras ers sefydliad y ras 109 mlynedd ynghynt. Gwisgwyd y crys melyn gan Fabian Cancellara (RadioShack-Nissan) o'r Swistir, a enillodd y prologue.[11] Cipiodd Wiggins, a ddaeth yn ail yn y prologue, y crys melyn ar gymal 7, y cymal mynyddig cyntaf, cymal a enillwyd gan Froome,[12] a deliodd ar y safle drwy gydol gweddill y ras, gan ennill y ddau dreial amser hir, a heb golli unrhyw amser i'w brif wrthwynebwyr yn y mynyddoedd. Daeth Froome yn ail yn y ddau dreial amser, ac roedd ochr yn ochr, neu ychydig o flaen Wiggins yn y cymalau mynyddig. Yr Eidalwr Vincenzo Nibali (Liquigas-Cannondale) a orffennodd yn y drydydd safle, yr unig reidiwr i gadw fyny gyda'r ddau yn gyson yn y mynyddoedd.
Enillwyd y crys gwyrdd am y dosbarthiad bwyntiau gan gyd-aelod tîm Nibali, y Slofaciwr Peter Sagan. Enillodd Sagan dri cymal, a bu'n ail neu'n drydydd mewn pedwar cymal arall. Enillwyd dau gymal hefyd gan y sbrintiwr Almaenig André Greipel (Lotto-Belisol), a phencampwr y byd Mark Cavendish, Prydeiniwr arall ar Team Sky, ond roeddent yn llai cyson yn sbrintiau eraill y ras. Thomas Voeckler, y Ffrancwr ar Team Europcar, a gipiodd dosbarthiad Brenin y Mynyddoedd, wedi iddo gipio dau gymal mynyddig a bod y cyntaf i groesi copa saith mynydd yn olynol. Yr Americanwr Tejay van Garderen (BMC Racing Team), a ddaeth yn bumed yn y dosbarthiad cyffredinol, a enillodd y crys gwyn fel y reidiwr ifanc gorau. Cipiodd RadioShack-Nissan y dosbarthiad timau, a gwobrwywyd Chris Anker Sørensen fel y reidiwr mwyaf brwydrol.
Cymalau
golyguCymal | Dyddiad | Dechrau – Gorffen | Pellter | Math | Enillydd | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|
P | 30 Mehefin | Liège – Liège | 6.4 km | Treial amser unigol | Fabian Cancellara | ||
1 | 1 Gorffennaf | Liège – Serain | 198 km | Cymal gwastad | Peter Sagan | ||
2 | 2 Gorffennaf | Visé – Tournai | 207.5 km | Cymal gwastad | Mark Cavendish | ||
3 | 3 Gorffennaf | Orchies – Boulogne-sur-Mer | 197 km | Cymal mynyddig canolig | Peter Sagan | ||
4 | 4 Gorffennaf | Abbeville – Rouen | 214.5 km | Cymal gwastad | André Greipel | ||
5 | 5 Gorffennaf | Rouen – Saint-Quentin | 196.5 km | Cymal gwastad | André Greipel | ||
6 | 6 Gorffennaf | Épernay – Metz | 207.5 km | Cymal gwastad | Peter Sagan | ||
7 | 7 Gorffennaf | Tomblaine – La Planche des Belles Filles | 199 km | Cymal mynyddig canolig | Chris Froome | ||
8 | 8 Gorffennaf | Belfort – Porrentruy | 157.5 km | Cymal mynyddig canolig | Thibaut Pinot | ||
9 | 9 Gorffennaf | Arc-et-Senans – Besançon | 41.5 | Treial amser unigol | Bradley Wiggins | ||
10 Gorffennaf | Diwrnod gorffwys | ||||||
10 | 11 Gorffennaf | Mâcon – Bellegarde-sur-Valserine | 195.5 km | Cymal mynyddig | Thomas Voeckler | ||
11 | 12 Gorffennaf | Albertville – La Toussuire/Les Sybelles | 148 km | Cymal mynyddig | Pierre Rolland | ||
12 | 13 Gorffennaf | Saint-Jean-de-Maurienne – Annonay/Davézieux | 226 km | Cymal mynyddig canolig | David Millar | ||
13 | 14 Gorffennaf | Saint-Paul-Trois-Châteaux – Cap d'Agde | 217 km | Cymal gwastad | André Greipel | ||
14 | 15 Gorffennaf | Limoux – Foix | 191 km | Cymal mynyddig | Luis León Sánchez | ||
15 | 16 Gorffennaf | Samatan – Pau | 158.5 km | Cymal mynyddig | Pierrick Fedrigo | ||
17 Gorffennaf | Diwrnod gorffwys | ||||||
16 | 18 Gorffennaf | Pau – Bagnères-de-Luchon | 197 km | Cymal mynyddig | Thomas Voeckler | ||
17 | 19 Gorffennaf | Bagnères-de-Luchon – Peyragudes | 143.5 km | Cymal mynyddig | Alejandro Valverde | ||
18 | 20 Gorffennaf | Blagnac – Brive-la-Gaillarde | 222.5 km | Cymal gwastad | Mark Cavendish | ||
19 | 21 Gorffennaf | Bonneval – Chartres | 53.5 km | Treial amser unigol | Bradley Wiggins | ||
20 | 22 Gorffennaf | Rambouillet – Paris (Champs-Élysées) | 120 km | Cymal gwastad | Mark Cavendish |
Arweinwyr y dosbarthiadau
golyguNodiadau
golyguPan yw un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn).[13] Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).
- Yng nghymal 1, gwisgodd Bradley Wiggins, a oedd yn ail yn y gystadleuaeth, y crys gwyrdd, gan fod Fabian Cancellara yn gwisgo'r crys melyn.
- Yng nghymal 2, gwisgodd Peter Sagan, a oedd yn ail yn y gystadleuaeth, y crys gwyrdd, gan fod Fabian Cancellara yn gwisgo'r crys melyn.
Canlyniadau
golyguDosbarthiad cyffredinol
golyguReidiwr | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|
1 | Bradley Wiggins | Team Sky | 87h 34' 47" |
2 | Chris Froome | Team Sky | + 3' 21″ |
3 | Vincenzo Nibali | Liquigas-Cannondale | + 6' 19″ |
4 | Jurgen Van Den Broeck | Lotto-Belisol | + 10' 15″ |
5 | Tejay van Garderen | BMC Racing Team | + 11' 04″ |
6 | Haimar Zubeldia | RadioShack-Nissan | + 15' 41″ |
7 | Cadel Evans | BMC Racing Team | + 15' 49″ |
8 | Pierre Rolland | Team Europcar | + 16' 26″ |
9 | Janez Brajkovič | Astana | + 16' 33″ |
10 | Thibaut Pinot | FDJ-BigMat | + 17' 17″ |
Dosbarthiad bwyntiau
golyguReidiwr | Tîm | Pwyntiau | |
---|---|---|---|
1 | Peter Sagan | Liquigas-Cannondale | 421 |
2 | André Greipel | Lotto-Belisol | 280 |
3 | Matthew Goss | Orica-GreenEDGE | 268 |
4 | Mark Cavendish | Team Sky | 220 |
5 | Edvald Boasson Hagen | Team Sky | 160 |
6 | Bradley Wiggins | Team Sky | 144 |
7 | Chris Froome | Team Sky | 126 |
8 | Luis León Sánchez | Rabobank | 104 |
9 | Juan José Haedo | Team Saxo Bank-Tinkoff Bank | 102 |
10 | Cadel Evans | BMC Racing Team | 100 |
Brenin y Mynyddoedd
golyguReidiwr | Tîm | Pwyntiau | |
---|---|---|---|
1 | Thomas Voeckler | Team Europcar | 135 |
2 | Fredrik Kessiakoff | Astana | 123 |
3 | Chris Anker Sørensen | Team Saxo Bank-Tinkoff Bank | 77 |
4 | Pierre Rolland | Team Europcar | 63 |
5 | Alejandro Valverde | Movistar Team | 51 |
6 | Chris Froome | Team Sky | 48 |
7 | Egoi Martínez | Euskaltel-Euskadi | 43 |
8 | Thibaut Pinot | FDJ-BigMat | 40 |
9 | Brice Feillu | Saur-Sojasun | 38 |
10 | Daniel Martin | Garmin-Sharp | 34 |
Dosbarthiad reidiwr ifanc
golyguReidiwr | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|
1 | Tejay van Garderen | BMC Racing Team | 87h 45′ 46″ |
2 | Thibaut Pinot | FDJ-BigMat | + 6' 13″ |
3 | Steven Kruijswijk | Rabobank | + 1h 05' 48″ |
4 | Rein Taaramäe | Cofidis | + 1h 16' 32″ |
5 | Gorka Izagirre | Euskaltel-Euskadi | + 1h 20' 40″ |
6 | Rafael Valls | Vacansoleil-DCM | + 1h 26' 37″ |
7 | Peter Sagan | Liquigas-Cannondale | + 1h 27' 42″ |
8 | Dominik Nerz | Liquigas-Cannondale | + 1h 31' 08″ |
9 | Edvald Boasson Hagen | Team Sky | + 1h 41' 39″ |
10 | Davide Malacarne | Team Europcar | + 1h 46' 06″ |
Dosbarthiad timau
golyguSafle | Tîm | Amser |
---|---|---|
1 | RadioShack-Nissan | 263h 12' 01″ |
2 | Team Sky | + 5' 54″ |
3 | BMC Racing Team | + 36' 36″ |
4 | Astana | + 43' 35″ |
5 | Liquigas-Cannondale | + 1h 04' 58″ |
6 | Movistar Team | + 1h 08' 19″ |
7 | Team Europcar | + 1h 08' 54" |
8 | Team Katusha | + 1h 12' 49″ |
9 | FDJ-BigMat | + 1h 19' 28″ |
10 | Ag2r-La Mondiale | + 1h 41' 18″ |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Le parcours du Tour de France-2012 dévoilé par erreur sur le site d’ASO. Adalwyd ar 11 Hydref 2011.
- ↑ 2012 Tour de France route officially presented. Adalwyd ar 18 Hydref 2011.
- ↑ 5 km de chrono en plus. Adalwyd ar 25 Mai 2012.
- ↑ SELECTION OF TEAMS FOR TOUR DE FRANCE 2012. letour.fr (6 Ebrill 2012). Adalwyd ar 6 Ebrill 2012.
- ↑ "Andy Scheck with sacral fracture out for Tour de France", radioshacknissantrek.com, 13 Mehefin 2012.
- ↑ "Cobo to ride Tour and Vuelta in 2012", cyclingnews.com, 12 Ionawr 2012.
- ↑ "Hesjedal heads to Tour de France with another win on his mind", cyclingnews.com, 5 Mehefin 2012.
- ↑ "Scarponi set to ride Tour de France", cyclingnews.com, 19 Mehefin 2012.
- ↑ "Wiggins may not yet be at his peak, says Holm", cyclingnews.com, 13 Mehefin 2012.
- ↑ "Yates: Wiggins hasn’t peaked yet", cyclingnews.com, 13 Mehefin 2012.
- ↑ Daniel Benson (30 Mehefin 2012). Cancellara wins 2012 Tour de France prologue in Liège. Cycling News. Future Publishing Limited. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2012.
- ↑ Susan Westemeyer (7 Gorffennaf 2012). Froome leads double Sky success on La Planche des Belles Filles. Cycling News. Future Publishing Limited. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2012.
- ↑ Tour de France 2009 Regulations. LeTour.fr.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Tour de France (ar gael yn Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg neu Sbaeneg)
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015
Crys Melyn | Crys Gwyrdd | Crys Dot Polca | Crys Gwyn | Gwobr Brwydrol