Giro d'Italia
Ras seiclo sy'n cynnwys sawl cymal yw'r Giro d'Italia (Taith yr Eidal), a adnabyddir yn fyr fel Y Giro. Mae'r ras, sydd ar gyfer seiclwyr proffesiynol, yn para tair wythnos, ac yn cael ei chynnal yn flynyddol ar ddiwedd Mai a dechrau Mehein o amgylch yr Eidal. Mae'r Giro yn un o'r tri Grand Tour, ac yn rhan o galendr Rheng y Byd UCI. Yr enillydd diweddaraf (yn 2012) oedd Ryder Hesjedal.
HanesGolygu
Ysbrydolwyd y Giro gan y Tour de France ac, yn yr un modd a ddyfeiswyd y ras Ffrengig i hybu gwerthiant L'Auto, bwriadodd Emilio Camillo Costamagna, golygydd La Gazzetta dello Sport, i gynyddu cylchrediad ei bapur ef. Dechreuodd y Giro d'Italia cyntaf ar 13 Mai 1909 ym Milan, gydag wyth cymal a chyfanswm o 2,448 cilometr (1,521 milltir). Luigi Ganna oedd enillydd y rhifyn cyntaf.
CrysauGolygu
Mae arweinydd cyffredinol y Giro wedi gwisgo crys pinc y maglia rosa ers 1931, gan gyd-fynd â'r papur pinc a argraffwyd y La Gazzetta dello Sport arni ar y pryd. Mae Brenin y Mynyddoedd yn gwisgo'r maglia verde (crys gwyrdd). Mae arweinydd y dosbarthiad pwyntiau yn gwisgo'r maglia ciclamino (crys piwswyn), a'r reidiwr ifanc gorau yn gwisgo'r maglia bianca (crys gwyn).
Yr Eidalwr Felice Gimondi sy'n dal y record am y nifer o weithiau iddo orffen ar y podiwm, gyda chyfanswm o naw: tair buddugoliaeth, dau ail safle a pedwar trydydd safle.
Maglia rosaGolygu
Gwisgir y maglia rosa pob dydd gan y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o'r amser a gymerwyd i gyflawni'r cymalau hyd hynnu. Gall y reidiwr sy'n gwisgo'r crys newid pob dydd wrth i'r ras fynd yn ei flaen, ond mae'r timau yn tueddi i wneud eu gorau i gadw eu reidwyr yn y crys oherwydd ceir ymddangosiad mwy yn y wasg i'r noddwyr a gwobrau ariannol. Mae pob tîm yn dod a chrysau pinc eu hunain i'r ras, gyda logos eu noddwyr arni rhag ofn bydd un o'u reidwyr hwy yn arwain y ras ar unrhyw adeg. Y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o amser ar ddiwedd y ras yw enillydd cyffredniol y Giro a'r maglia rosa, yn yr un modd ag enillir y Maillot Jaune yn y Tour de France.
- 5 buddugoliaeth: Alfredo Binda (1925, 1927, 1928, 1929, 1933), Fausto Coppi (1940, 1947, 1949, 1952, 1953), Eddy Merckx (1968, 1970, 1972, 1973, 1974)
- 3 buddugoliaeth: Giovanni Brunero (1921, 1922, 1926), Gino Bartali (1936, 1937, 1946), Fiorenzo Magni (1948, 1951, 1955), Felice Gimondi (1967, 1969, 1976), Bernard Hinault (1980, 1982, 1985)
Maglia verdeGolygu
Yn ystod cymalau mynyddig y ras, gwobrwyir pwyntiau i'r reidiwr cyntaf i gyrraedd copa pob esgyniad sylweddol. Bydd sawl o'r reidwyr canlynol drost y copa yn derbyn llai o bwyntiau yn dibynnu ar eu safle a caletwch yr esgyniad. Caiff yr elltydd eu dosbarthu mewn gwahanol gategoriau, caiff y categori ei benderfynnu ar sail faint mor serth a hir yw'r allt. Gwisgir y maglia verde (crys gwyrdd) gan arweinydd y gystadleuaeth, sef y reidiwr sydd gyda'r cyfanswm mwyaf o bwyntiau dringo ar ddechrau'r cymal. Os yw reidiwr yn dal y maglia rosa a'r verde, gwisgir y maglia verde gan y reidiwr sydd yn ail yn y gystadleuaeth hwnnw. Enillydd maglia verde y Giro pob blwyddyn yw'r reidiwr sydd gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau dringo ar ddiwedd y ras. Mae nifer o reidwyr yn anelu yn arbennig i geisio ennill y gystadleuaeth hon, yn arbennig y rhai sydd ddim yn sbrintwyr na'r dreialwyr-amser cryf. Mae'r un peth yn wir gyda'r Crys Dot Polca yn y Tour de France. Enillydd maglia verde 2012 oedd Matteo Rabottini.
Pwyntiau:
- Hors catégorie (HC): 20, 18, 16, 14, 12, 10, 8, 7, 6 a 5.
- Categori 1: 15, 13, 11, 9, 8, 7, 6 a 5.
- Categori 2: 10, 9, 8, 7, 6, a 5.
- Categori 3: 4, 3, 2 a 1.
- Categori 4: 3, 2 a 1.
Caiff y pwyntiau ar gael eu dyblu ar gyfer yr esgyniad olaf yn y cymal (categori HC, 1 a 2 yn unig).
- 7 buddugoliaeth: Gino Bartali
- 4 buddugoliaeth: José Manuel Fuente
- 3 buddugoliaeth: Claudio Chiappucci, Claudio Bortolotto, Franco Bitossi, Fausto Coppi
Maglia ciclaminoGolygu
Gwobrwyir pwyntiau tuag at cystadleuaeth y sbrintwyr i'r reidwyr cyntaf i groesi'r llinell mewn cymalau gwastad, ac mewn sbrintiau canolraddol ar bwyntiau dynodedig yn ystod cymal. Mae'r nifer o bwyntiau yn amrywio, gan ddibynnu ar faint mor galed yw'r cymal, y nifer o esgyniadau a'u categori. Gwisgir y maglia ciclamino gan y reidiwr sy'n arwain y gystadleuaeth ar ddechrau pob cymal, sef y reidiwr sydd gya'r cyfanswm mwyaf o bwyntiau sbrintio. Y reidiwr sydd â'r cyfanswm mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y ras yw enillydd maglia ciclamino y Giro. Enillir y gystadleuaeth gan sbrintwyr fel rheol, sydd gyda ychydig os unrhyw obaith o allu ennill yn y dosbarthiad cyffredinol. Mae'r maglia ciclamino yn cyfateb i maillot vert y Tour de France. Enillydd y gystadleuaeth hon yn 2012 oedd Joaquim Rodríguez.
Pwyntiau:
- Cymalau Gwastad
- Gwobrwyir 35, 30, 26, 24, 22, 20, 19, 18, 17, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 pwynt i'r 25 reidiwr cyntaf i orffen cymal.
- Cymalau mynyddig canolig
- Gwobrwyir 25, 22, 20, 18, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2, 1 pwynt i'r 20 reidiwr cyntaf i orffen cymal.
- Cymalau mynyddig uchel
- Gwobrwyir 20, 17, 15, 13, 12, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2, 1 pwynt i'r 15 reidiwr cyntaf i orffen cymal.
- Treialon amser
- Gwobrwyir 15, 12, 10, 8, 6, 5, 4, 3, 2, 1 pwynt i'r 10 reidiwr cyflymaf yn y cymal.
Gall cymalau gynnwys sawl sbrint canolraddol: Gwobrwyir 6, 4, a 2 o bwyntiau i'r 3 reidiwr cyntaf i groesi'r llinellau rhain.
Y nifer fwyaf o fuddugoliaethau yn y gystadleuaeth bwyntiau:
- 4 buddugoliaeth: Francesco Moser, Giuseppe Saronni
- 3 buddugoliaeth: Mario Cipollini, Roger De Vlaeminck, Johan Van der Velde
Maglia biancaGolygu
Mae cystadleuaeth y reidiwr ifanc gorau o fewn y Giro, sy'n dathlu reidwyr ifanc. Gwobrwyir y maglia bianca (crys gwyn) i'r reidiwr ifanc gorau, sef y reidiwr odan 25 oed sydd yn y safle uchaf yn y dosbarthiad cyffredinol, yn yr un modd a'r Crys Gwyn yn y Tour de France. Gwisgir y crys hwn, fel yn y cystadlaethau eraill, gan arweinydd y gystadleuaeth a ddechrau pob cymal. Enillwyd maglia bianca 2012 gan Rigoberto Urán.
Rhestr yr enillwyr cyffredinolGolygu
Buddugoliaethau yn ôl gwladGolygu
Rheng | Gwlad | Buddugoliaethau |
---|---|---|
1 | Yr Eidal | 67 |
2 | Gwlad Belg | 7 |
3 | Ffrainc | 6 |
4 | Y Swistir | 3 |
Sbaen | 3 | |
Rwsia | 3 | |
7 | Luxembourg | 2 |
8 | Canada | 1 |
Gweriniaeth Iwerddon | 1 | |
UDA | 1 | |
Sweden | 1 |
Buddugoliaethau cymalau'r Giro d'ItaliaGolygu
Rheng | Enw | Gwlad | Nifer[2] |
---|---|---|---|
1 | Mario Cipollini | Yr Eidal | 42 |
2 | Alfredo Binda | Yr Eidal | 41 |
3 | Learco Guerra | Yr Eidal | 31 |
4 | Costante Girardengo | Yr Eidal | 30 |
5 | Eddy Merckx | Gwlad Belg | 25 |
6 | Alessandro Petacchi | Yr Eidal | 24 |
Giuseppe Saronni | Yr Eidal | 24 | |
8 | Francesco Moser | Yr Eidal | 23 |
9 | Fausto Coppi | Yr Eidal | 22 |
Roger De Vlaeminck | Gwlad Belg | 22 | |
11 | Franco Bitossi | Yr Eidal | 21 |
12 | Giuseppe Olmo | Yr Eidal | 20 |
Miguel Poblet | Sbaen | 20 |
RecordiauGolygu
- Y nifer fwyaf o fuddugoliaethau: 5 - Alfredo Binda, Fausto Coppi ac Eddy Merckx
- Y nifer o ddyddiau yn y maglia rosa: 76 - Eddy Merckx
- Y nifer fwyaf o fuddugoliaethau cymalau mewn un Giro d'Italia: 12 - Alfredo Binda yn Giro d'Italia 1927
- Y nifer fwyaf o ffuddugoliaethau cymalau yn ganlynol: 8 - Alfredo Binda yn Giro d'Italia 1929
CyfeiriadauGolygu
- ↑ The 1912 Giro was run as a team competition
- ↑ 87th Giro d'Italia: a bit of History. dailypeloton.com.
Nodyn:Maglia ciclamino Nodyn:Maglia Verde Nodyn:Maglia bianca