Andrea Palladio
Pensaer Eidalaidd oedd Andrea di Pietro della Gondola (Palladio) (30 Tachwedd 1508 – 19 Awst 1580). Cafodd y llysenw "Palladio" gan Gian Giorgio Trissino, yn cyfeirio at Pallas Athena, duwies doethineb yn y pantheon Groegaidd.
Andrea Palladio | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Andrea di Pietro della Gondola ![]() Tachwedd 1508 ![]() Padova ![]() |
Bu farw |
c. 19 Awst 1580, 1579, 1580 ![]() Vicenza ![]() |
Dinasyddiaeth |
Gweriniaeth Fenis ![]() |
Galwedigaeth |
pensaer ![]() |
Adnabyddus am |
Basilica Palladiana, Gallerie dell'Accademia, Villa Saraceno, Villa Almerico Capra (La Rotonda), Gioiello di Vicenza, Church of San Giorgio Maggiore, Teatro Olimpico ![]() |
Ganed ef yn Padova, a dechreuodd weithio fel pensaer yn 1540. Bu'n byw yn Vicenza am flynyddoedd, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladau yno. Cafodd ddylanwad mawr ar bensaerniaeth; er enghraiift roedd yn un o'r dylanwadau pwysicaf ar Inigo Jones.
Mae ei lyfr I quattro libri dell'architettura (Fenis, 1570) wedi parhau i fod yn ddylanwadol iawn.