Teatro Olimpico
Theatr yn ninas Vicenza, yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal, yw'r Teatro Olimpico, a adeiladwyd rhwng 1580 a 1585. Fe'i dyluniwyd gan y pensaer Andrea Palladio (1508–80) er na chafodd ei chwblhau tan ar ôl ei farwolaeth. Goruchwyliodd y pensaer Vincenzo Scamozzi (1548–1616) y broses o gyflawni cynlluniau Palladio.
Math | theatr, amgueddfa palazzo, museum of a public entity |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1585 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Musei civici di Vicenza |
Lleoliad | canol hanesyddol Vicenza |
Sir | Vicenza |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 1,000 m² |
Cyfesurynnau | 45.55°N 11.5492°E |
Cod post | 36100 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth y Dadeni |
Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal |
Manylion | |
Mae'r awditoriwm yn hanner elíps gyda rhesi o seddi ar ongl serth yn wynebu'r llwyfan. Ar y llwyfan mae set trompe-l'œil a ddyluniwyd gan Scamozzi. Mae set hon yn rhoi rhith optegol o bum stryd hir yn diflannu i'r pellter. Fe'i crëwyd ar gyfer y perfformiad cyntaf a gynhaliwyd yn y theatr yn 1585, a dyma'r set llwyfan hynaf y byd sydd wedi goroesi. Mae tu mewn clasurol y theatr a'r llwyfan wedi'i wneud o bren a gwaith stwco sy'n dynwared marmor.
Ers 1994 mae'r Teatro Olimpico, ynghyd ag adeiladau Palladian eraill yn Vicenza a'r cyffiniau, wedi bod yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "City of Vicenza and the Palladian Villas of the Veneto". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2022.
Oriel
golygu-
Yr awditoriwm
-
Y llwyfan
-
Y llwyfan: un o'r "strydoedd"
-
Cynllun llawr (darlun Ottavio Bertotti Scamozzi, 1776)
-
Trawslun (darlun Ottavio Bertotti Scamozzi, 1776)