Inigo Jones
Pensaer Seisnig o dras Gymreig oedd Inigo Jones (15 Gorffennaf 1573 – 21 Mehefin 1652).[1] Ef sydd yn bennaf gyfrifol am gyflwyno'r arddull glasurol i bensaernïaeth yng ngwledydd Prydain.
Inigo Jones | |
---|---|
![]() Portread o Inigo Jones gan William Hogarth, ar ôl gwaith gan Antoon van Dyck | |
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1573 ![]() Llundain, Smithfield ![]() |
Bu farw | 21 Mehefin 1652 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Galwedigaeth | pensaer, gwleidydd, cynllunydd llwyfan ![]() |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1621-22 Parliament ![]() |
Adnabyddus am | Eglwys Sant Paul, Queen's Chapel ![]() |
Mudiad | pensaernïaeth y Dadeni ![]() |
Ganwyd Inigo Jones yn Smithfield, Llundain, yn fab i weithiwr brethyn Cymreig a oedd hefyd yn dwyn yr enw anghyffredin 'Inigo'. Ar daith i'r Eidal ym 1613 daeth yn ymwybodol o adeiladau Andrea Palladio yn y Veneto a'i ysgrifau ar bensaernïaeth. Bu'r rhain, ynghyd â gwaith yr awdur a phensaer Rhufeinig Vitruvius, yn ysbrydoliaeth mawr iddo. O 1615 hyd 1642 bu Inigo yn bensaer i'r llys brenhinol (Surveyor of the King's Works), yn gwasanaethu'r brenhinoedd Iago I a Siarl I. Yn y cyfnod yma cynlluniodd Tŷ'r Frenhines yn Greenwich, yr adeilad glasurol gyntaf yng ngwledydd Prydain, a'r Tŷ Gwledda ym Mhalas Whitehall. Hefyd, ef oedd y pensaer a gynlluniodd Covent Garden Piazza, y sgwâr ffurfiol cyntaf yn Llundain.
Claddwyd ef yn Uwcheglwys San Bened yn Ninas Llundain.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Hart, Vaughan (2011). Inigo Jones: The Architect of Kings (yn Saesneg). Yale University Press. ISBN 9780300141498.
Oriel Golygu
-
Gwledd-dy Whitehall
-
Tŷ'r Frenhines, Greenwich
-
Capel y Frenhines, Palas Sant Iago
-
Ffasâd ar gyfer hen Eglwys Gadeiriol Sant Paul