Andrew Stanton
Cyfarwyddwr ffilmiau wedi eu hanimeiddio, sgriptiwr ac actor llais Americanaidd yw Andrew Christopher Stanton Jr. (ganwyd 3 Rhagfyr 1965). Mae ei weithiau amlycaf yn cynnwys ysgrifennu a chyfarwyddo WALL-E a Finding Nemo gyda Pixar Animation Studios. Derbyniodd Finding Nemo Wobr yr Academi am y ffilm animeiddiedig orau yn 2004. Graddiodd Andrew Stanton o CalArts ym 1987 lle astudiodd animeiddio cymeriad.
Andrew Stanton | |
---|---|
Ganwyd | 3 Rhagfyr 1965 Rockport, Massachusetts |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, actor, actor ffilm, actor llais, animeiddiwr, cyfarwyddwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Evil Emperor Zurg |
Gwobr/au | Gwobr Annie, Gwobr yr Academi am yr Animeiddiad Ffilm Gorau, Gwobr yr Academi am yr Animeiddiad Ffilm Gorau, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Ffurf Hir |
Mewn cyfweliad gyda Megan Basham o World Magazine, esboniodd Stanton ei weledigaeth bersonol ar gyfer y ffilm WALL-E. Dywedodd "(W)hat really interested me was the idea of the most human thing in the universe being a machine because it has more interest in finding out what the point of living is than actual people. The greatest commandment Christ gives us is to love, but that's not always our priority. So I came up with this premise that could demonstrate what I was trying to say—that irrational love defeats the world's programming. You've got these two robots that are trying to go above their basest directives, literally their programming, to experience love..."
Mae Stanton wedi dechrau gweithio ar ei ffilm nesaf, John Carter of Mars a ddylai gael ei rhyddhau ar ddechrau 2012. Mae ganddo fab o'r enw Ben a merch o'r enw Audrey. Mae'n byw yn Mill Valley.
Ganwyd yn Rockport, Massachusetts.