Cwmni cyhoeddus Americanaidd sy'n darparu gwasanaethau rhyngrwyd yw Google Inc. Ei beiriant chwilio yw'r mwyaf o ran maint a phoblogrwydd ar y we, a cheir fersiynau ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd y byd, mewn dros gant o ieithoedd. Mae'n defnyddio amryw o ffactorau er mwyn asesu pwysigrwydd gwefan.

Google
Math
busnes
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig (UDA)
Aelod o'r canlynol
Wi-Fi Alliance
Diwydianty diwydiant meddalwedd, Technoleg gwybodaeth, Rhyngrwyd, Porwr gwe
Sefydlwyd4 Medi 1998
SefydlyddSergey Brin, Larry Page
Aelod o'r canlynolWi-Fi Alliance, Wireless Power Consortium
Pencadlys
Pobl allweddol
Larry Page (Prif Weithredwr)
Cynnyrchmeddalwedd
PerchnogionLarry Page (0.00274), Sergey Brin (0.00269), Eric Schmidt (0.00055)
Nifer a gyflogir
139,995 (31 Mawrth 2021)
Is gwmni/au
Boston Dynamics
Lle ffurfioMenlo Park, California
Gwefanhttps://about.google/, https://www.google.com/, https://blog.google/ Edit this on Wikidata

Mae'r enw "Google" yn chwarae ar y gair "googol", sef 10100 (1 wedi'i ddilyn gan gant o seroau). Mae Google wedi dod yn enwog am ei ddiwylliant corfforaethol a'i gynnyrch newydd a datblygedig, ac wedi cael effaith enfawr ar ddiwylliant ar-lein. Mae'r ferf Saesneg "google" wedi dod i olygu "i chwilio'r we am wybodaeth", ac mae "googlo" neu "gwglo" wedi ymddangos ar rai gwefannau Cymraeg fel cyfieithiad e.e. "Wyt ti wedi gwglo'r gair 'roced'?".

Un o fentrau diweddaraf Google yw buddsoddiad sylweddol, gyda In-Q-Tel (arf buddsoddi'r CIA) ac Amazon, yn y cwmni newydd Recorded Future, prosiect hel gwybodaeth arlein yn fyw trwy chwilio'n drwyadl degau o filoedd o wefannau, blogiau a chyfrifon Twitter gan gysylltu'r wybodaeth ar unwaith i greu darlun o bwy sy'n gwneud be a phwy sy'n cysylltu gyda phwy ar y rhyngrwyd.[1]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

Dolenni allanolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.