Andy Melville
Mae Andrew Roger Melville (ganwyd yn Abertawe ar 29 Tachwedd 1968) yn gyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru. Dechreuodd ei yrfa fel chwaraewr canol cae, a throi yn amddiffynnwr yn ddiweddarach.
Andy Melville | |
---|---|
Ganwyd | 29 Tachwedd 1968 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Bradford City A.F.C., West Ham United F.C., Sunderland A.F.C., Nottingham Forest F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Oxford United F.C., Fulham F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
Safle | canolwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraeodd i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe tan iddo symud i Oxford United yng Ngorffennaf 1990 am ffi o £275,000. Bu'n chwarae hefyd i Sunderland, Bradford City F.C. a Fulham, a threulio cyfnodau byr gyda West Ham United a Nottingham Forest ar ddiwedd ei yrfa.
Cafodd 65 o gapiau gyda thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru rhwng 1989 a 2004, a sgoriodd dair gwaith.