Angels & Demons (ffilm)

ffilm ddrama am drosedd gan Ron Howard a gyhoeddwyd yn 2009

Mae Angels & Demons yn addasiad ffilm o nofel Dan Brown o'r un enw. Disgwylir i'r ffilm gael ei rhyddhau ar y 15fed o Fai 2009. Dyma'r ffilm ddilynol i The Da Vinci Code, a oedd hefyd yn addasiad o un o weithiau Dan Brown, er cafodd y nofel Angels & Demons ei chygoeddi cyn The Da Vinci Code. Digwyddodd y ffilmio yn Rhufain ac yn Stiwdios Sony Pictures yn Los Angeles. Ail-gymrodd Tom Hanks prif rôl y cymeriad Robert Langdon, tra bod y cyfarwyddwr Ron Howard, cynhyrchydd Brian Grazer a'r sgriptiwr Akiva Goldsman wedi dychwelyd i'r ffilm.

Angels and Demons

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Ron Howard
Cynhyrchydd Brian Grazer
John Calley
Ysgrifennwr Sgript:
David Koepp
Akiva Goldsman
Nofel:
Dan Brown
Serennu Tom Hanks
Ayelet Zurer
Ewan McGregor
Cerddoriaeth Hans Zimmer
Sinematograffeg Salvatore Totino
Golygydd Daniel P. Hanley
Mike Hill
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Imagine Entertainment
Columbia Pictures
Amser rhedeg 138 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Galwa CERN Robert Langdon (Tom Hanks) i ymchwilio i lofruddiaeth gwr sydd wedi cael ei frandio gan ambigram yr Illuminati. Darganfydda Langdon gynllwyn y gymdeithas gudd i ladd pedwar Cardinal Catholig a dinistrio Basilica Sant Pedr gyda gwrth-fater a ddygwyd yn ystod y cyfrin-gyngor pabol.

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm gyffro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.