The Da Vinci Code (ffilm)
ffilm ddrama am drosedd gan Ron Howard a gyhoeddwyd yn 2006
Mae The Da Vinci Code (2006) yn ffilm a gyfarwyddwyd gan Ron Howard, yn seileidig ar y nofel boblogaidd The Da Vinci Code gan Dan Brown (2003). Roedd y ffilm yn un o'r ffilmiau mwyaf disgwyliedig o 2006, a chafodd ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Cannes ar 17 Mai, 2006. Rhyddhawyd y ffilm yn gyffredinol mewn nifer o wledydd gan Columbia Pictures ar 18 Mai, 2006 ac yna yn yr Unol Daleithiau ar 19 Mai, 2006.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Ron Howard |
Cynhyrchydd | Brian Grazer Ron Howard John Calley |
Ysgrifennwr | Addasiad: Akiva Goldsman Nofel: Dan Brown |
Serennu | Tom Hanks Audrey Tautou Ian McKellen Paul Bettany Jean Reno Alfred Molina Jürgen Prochnow |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Columbia Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 19 Mai, 2006 |
Amser rhedeg | 149 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg Ffrangeg Lladin |
Gwefan swyddogol | |
Adolygiad BBC Cymru'r Byd | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |