Angharad ferch Nest
(1150- ) o dras fonheddig
Angharad ferch Nest (fl. 12g) oedd gwraig William de Barri a mam Gerallt Gymro.
Angharad ferch Nest | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Gerallt o Windsor, Stephen |
Mam | Nest ferch Rhys ap Tewdwr |
Priod | William de Barri |
Plant | Gerallt Gymro, Philip de Barry, Robert de Barry, Walter de Barry |
Roedd Angharad yn ferch i'r Dywysoges Nest (fl.1100-1120), ferch Rhys ap Tewdwr, tywysog Deheubarth, gwraig Gerallt o Windsor, arglwydd Normanaidd Ynys y Barri a cheidwad Castell Penfro. Mae'n debygol i Angharad gael ei geni ym Mhenfro.
Ar ôl priodi, William de Barri, fab Odo de Barri, bu Angharad yn byw gyda'i gŵr yng nghastell Maenorbŷr, Sir Benfro.
Cafodd pedwar mab gan William, sef Robert, Phylip, Gwallter a Gerallt (a aned yn 1146). Ymddengys fod Gerallt yn hoff iawn o'i fam gan ei fod yn cyfeirio ati yn aml, gyda balchder, yn ei weithiau llenyddol.
Ffynonellau
golygu- Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938)
- Michael Richter, Giraldus Cambrensis (Aberystwyth, 1976)