Nest ferch Rhys ap Tewdwr
Roedd y Dywysoges Nest yn ferch i Rhys ap Tewdwr, brenin olaf Deheubarth (c. 1085 – m. cyn 1136; fl. 1100-1120).
Nest ferch Rhys ap Tewdwr | |
---|---|
Ganwyd | c. 1085 |
Bu farw | 1136 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pendefig |
Blodeuodd | 1120 |
Swydd | tywysog |
Tad | Rhys ap Tewdwr |
Mam | Gwladus ferch Rhiwallon ap Cynfyn |
Priod | Gerallt o Windsor, Stephen |
Partner | Harri I, brenin Lloegr |
Plant | Henry Fitz Roy, Angharad ferch Nest, Maurice FitzGerald, David FitzGerald, Robert Fitz-Stephen, William Fitz Gerald, Einion ab Owain ap Cadwgan ap Bleddyn |
Llinach | House of FitzGerald |
Adwaenir Nest fel Helen Cymru oherwydd iddi gael ei chipio gan Owain ap Cadwgan yn 1109, efallai yng nghastell Cilgerran. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant.
Tua'r flwyddyn 1100 priododd â Gerald de Windsor. Ymhlith ei phlant gan Gerallt o Windsor oedd ei ferch Angharad. Priododd Angharad â William de Barri, arglwydd Maenorbŷr; un o'i meibion oedd y llenor enwog Gerallt Gymro.
Cafodd fab gyda Harri I, brenin Lloegr, a gafodd yr enw Henry Fitz Roy. Lladdwyd ef pan oedd un un o arweinwyr y fyddin a ymosododd ar Ynys Môn yn 1157, yn ystod cyrch brenin Lloegr yn erbyn Owain Gwynedd. Cafodd Nest hefyd nifer o blant gan Stephen, cwnstabl castell Aberteifi, yn cynnwyd Robert Fitz-Stephen, arweinydd y fyddin Normanaidd gyntaf i groesi i Iwerddon i ddechrau'r goresgyniad Normanaidd yno.
Ffuglen
golyguYsgrifennwyd dwy nofel ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan Geraint Dyfnallt Owen, sef Nest (1949) a Dyddiau'r Gofid (1950).