Angharad ferch Owain

Gwraig Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd a mam Owain Gwynedd

Gwraig Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd a mam Owain Gwynedd oedd Angharad ferch Owain (bu farw 1162).[1]

Angharad ferch Owain
Ganwyd1065 Edit this on Wikidata
Bu farw1162 Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtirfeddiannwr Edit this on Wikidata
TadOwain ab Edwin ap Gronw Edit this on Wikidata
MamMorwyl ferch Ednywain Bendew Edit this on Wikidata
PriodGruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata
PlantOwain Gwynedd, Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan, Cadwallon ap Gruffudd, Cadwaladr ap Gruffudd, Siwsana ferch Gruffudd, Rhanullt ferch Gruffudd ap Cynan, Margred ferch Gruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd Angharad yn ferch i Owain ab Edwin ap Gronw, uchelwr pwysig o Degeingl (rhan o Sir y Fflint heddiw). Priododd Gruffudd tua 1095, pan oedd newydd ddechrau ei ymdrech i adfeddiannu Gwynedd. Cawsant dri mab: Cadwallon ap Gruffudd, Owain Gwynedd a Chadwaladr ap Gruffudd, a phum merch: Gwenllian ferch Gruffudd, a briododd Gruffudd ap Rhys, Marared, Rainillt, Susanna, a briododd Madog ap Maredudd o Bowys, ac Annest.[1]

Ceir canmoliaeth fawr i Angharad yn Hanes Gruffudd ap Cynan, a gomisiynwyd mae'n debyg yn ystod teyrnasiad ei mab, Owain Gwynedd. Pan fu Angharad farw yn 1162, dywedir i Owain alaru'n ddirfawr amdani.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Gwasg Prifysgol Cymru).