Owain ab Edwin ap Gronw

bonedd

Uchelwr Cymreig yn dal tiroedd yn Nhegeingl oedd Owain ab Edwin ap Gronw (bu farw 1105).

Owain ab Edwin ap Gronw
Bu farw1105 Edit this on Wikidata
Galwedigaethtirfeddiannwr Edit this on Wikidata
TadEdwin of Tegeingl Edit this on Wikidata
MamIwerydd ferch Cynfyn Edit this on Wikidata
PriodMorwyl ferch Ednywain Bendew Edit this on Wikidata
PlantAngharad ferch Owain, Goronwy ap Owain, Aldud ab Owain ab Edwin ap Gronwy, Meilir ab Owain ab Edwin ap Gronwy, Llywelyn ab Owain ab Edwin ap Gronwy Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd yn fab i Edwin ap Gronw o linach Hywel Dda ac Iwerydd, hanner-chwaer Bleddyn ap Cynfyn. Roedd ganddo frawd, Uchtryd ab Edwin. Dywedir iddo gynorthwyo Hugh, Iarll Caer yn ei ymgyrch yn erbyn Gwynedd yn 1098. Priododd ei ferch, Angharad, a brenin Gwynedd, Gruffudd ap Cynan. Roedd ganddo fab, Gronw ab Owain, a daeth ei ferch ef, Cristin neu Cristina, yn ail wraig Owain Gwynedd. Roedd y berthynas deuluol rhwng Owain Gwynedd a Cristina yn achos anghydfod gyda'r eglwys, a pharodd ysgymuno Owain pan wrthododd ysgaru Cristina.

Cyfeiriadau

golygu