Anghenion y Gynghanedd

llyfr

Gwerslyfr ar y Gynghanedd gan Alan Llwyd yw Anghenion y Gynghanedd; Cyhoeddiadau Barddas a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ar 19 Gorffennaf 2007. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print ac ar gael.[1]

Anghenion y Gynghanedd
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAlan Llwyd
CyhoeddwrCyhoeddiadau Barddas
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncAstudiaethau llenyddol
Argaeleddmewn print ac ar gael
ISBN9781900437981
GenreLlenyddiaeth Gymraeg

Disgrifiad byr

golygu

Mae'r gyfrol ddiweddaraf hon yn werslyfr sy'n rhoi arweiniad at sut i gynganeddu. Mae hwn yn fersiwn llawnach a mwy cyfoes o'r gyfrol wreiddiol a gyhoeddwyd ym 1973. Ailwampiwyd ac ailysgrifennwyd y cyfan. Mae'n llawer mwy cynhwysfawr nag Anghenion y Gynghanedd 1973, a defnyddir llinellau o waith y prif feirdd cynganeddol, yn enwedig y Cywyddwyr, i esbonio pob cynghanedd ac i egluro pob rheol, bai a goddefiad. Dysg lafar oedd Cerdd Dafod yng nghyfnod y Cywyddwyr, ac er bod peth o'r ddysg honno wedi goroesi mewn llawysgrifau fel Pum Llyfr Cerddwriaeth Simwnt Fychan (tua 1570), mae awdur y gyfrol hon yn dadlau fod holl gyfrinachau'r traddodiad barddol wedi goroesi yng ngwaith y Cywyddwyr eu hunain. Dadlennu'r ddysg honno a wneir yn y llyfr hwn.

Ceir damcaniaethau a dadleuon newydd sbon yma hefyd, ac mae'r gyfrol yn trafod rhai o brif dechnegau'r prif feirdd cynganeddol. Gan fod cymaint o ddryswch ac anghytundeb yn bod ynghylch rhai o reolau'r gynghanedd erbyn hyn, mae cyhoeddi'r llyfr hwn yn ddigwyddiad amserol.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013